Dosbarthu Papurau Cwestiynau
Anfonir papurau cwestiynau i ganolfannau cyn bob cyfres arholiadau. Ar gyfer cyfres Mehefin, anfonir papurau yn wythnosol o fis Ebrill ymlaen. Gweler ein siart dyddiadau allweddol am fwy o wybodaeth.
Defnyddir cludwr wrth anfon papurau cwestiynau a bydd angen llofnod ar ôl eu derbyn. Rhaid i ganolfannau gofnodi bod sgriptiau wedi'u derbyn a'u storio nhw yn eu cyfleuster storio diogel yn unol â rheoliadau'r CGC.
Mae pecynnau papurau cwestiynau wedi'u codio â lliw yn ôl lefel, fel y cyhoeddwyd yn y canllaw Taflen Pecyn Papur Cwestiynau.
Papurau Cwestiynau wedi'u Haddasu
Darperir gwybodaeth am Bapurau wedi'u Haddasu ar y dudalen Gofynion Arbennig.
Llwytho papurau cwestiynau nad ydynt yn rhyngweithiol i lawr ar gyfer Trefniadau Mynediad
Ar yr amod bod archeb am bapurau cwestiynau nad ydynt yn rhyngweithiol wedi'i gwneud drwy'r system Trefniadau Mynediad ar-lein a bod cofrestriad wedi'i gyflwyno erbyn 18fed Mawrth, gall deiliaid prif gyfrifon gael mynediad at bapurau cwestiynau nad ydynt yn rhyngweithiol ar ddiwrnod yr arholiad drwy'r wefan ddiogel.
Mae cymorth ynghylch llwytho papurau cwestiynau electronig i lawr ar gael o'r adran berthnasol:
TGAU: 029 2026 5082
UG/Safon Uwch: 029 2026 5336
Galwedigaethol, Cymhwysol a Lefel Mynediad: 029 2026 5444
Mae gwybodaeth ar gael i chi ynghylch llwytho papurau cwestiynau i lawr ar dudalen hafan gwefan ddiogel CBAC.
Rhaid cynnal arholiadau yn unol â gofynion y CGC. Mae manylion am y gofynion i'w cael yn y ddogfen Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau y CGC (ICE).
Cofrestri Presenoldeb
Rhestrir y rhain yn nhrefn dyddiad, ac yn cael eu hanfon mewn amlenni ar wahân ar gyfer pob un o'r cymwysterau y mae gennych gofrestriadau ar eu cyfer (e.e. Bydd TGAU yn cael eu pacio ar wahân i Safon Uwch). Ni fyddant yn cael eu hanfon gyda’r dosbarthiadau papurau cwestiynau.
Yn ogystal â chyhoeddi cofrestri presenoldeb ar ffurf copi caled, gall deiliaid prif gyfrifon (y swyddog arholiadau fel arfer) gael mynediad at gofrestri presenoldeb a'u hargraffu o'r Porth drwy glicio ar "cofrestriadau" ar frig y dudalen ac yna "Cofrestri Presenoldeb”. Dewiswch eich cymhwyster ac yna cliciwch ar "dangos papurau ar gyfer y sesiwn”. Bydd cofrestri ar Porth yn cyfleu’r cofrestriadau diweddaraf.
Dylai canolfannau sicrhau bod cofrestri presenoldeb yn cael eu llenwi yn fanwl gywir a'u bod yn dangos yn glir yr ymgeiswyr sy'n bresennol (tic), yn absennol neu wedi'u tynnu'n ôl fel y bo'n briodol. Peidiwch â gadael y lle wrth ochr enw'r ymgeisydd yn wag.
Lle mae ymgeisydd yn sefyll arholiad ond nad yw ar y gofrestr presenoldeb a ddarparwyd, dylid ychwanegu enw'r ymgeisydd at waelod y gofrestr. Lle mae ymgeisydd wedi newid haen, dylid ei farcio'n absennol a'i ychwanegu at y gofrestr gywir. Dylid ychwanegu unrhyw ymgeiswyr cofrestriad hwyr at y mannau priodol ar ddiwedd y rhestr.
Ar ddiwedd y sesiwn arholiad, dylid gosod y sgriptiau yn y drefn y rhestrir yr ymgeiswyr ynddi ar y gofrestr presenoldeb. Dylai canolfannau gadw copïo o'r cofrestri presenoldeb ar gyfer eu cofnodion. Fel rhan o'r gwiriad hwn, sicrhewch fod ymgeiswyr wedi defnyddio'r enw a ddangosir ar y gofrestr bresenoldeb.
Mae rhagor o wybodaeth am gofrestrau presenoldeb ar gael yn adran 22 o’r Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau CGC
Llyfrynnau Ateb
Mae manylion am pa bynciau y mae angen defnyddio llyfrau ateb gyda nhw i'w gweld yn y llyfryn 'Gofynion Arholiadau' a gyhoeddir cyn pob cyfres arholiadau a bydd yn cael ei anfon i ganolfannau gyda'r deunyddiau arholiadau (labeli arholwyr a chofrestri presenoldeb). Ar gyfer bib arholiad lle mae llyfr ateb yn angenrheidiol, rhaid defnyddio llyfrynnau pinc 16-tudalen CBAC y mae modd eu sganio. Os bydd angen mwy o le i ysgrifennu ar ymgeiswyr, dylid defnyddio llyfryn pinc 4 tudalen y gellir ei sganio.
Mae gwybodaeth am lenwi llyfrau ateb ar gael i Swyddogion Arholiadau yma. Mae canllaw i ymgeiswyr ar gael yma.
Dosbarthu deunyddiau arholiadau
Dosberthir llyfrynnau ateb CBAC, amlenni sgriptiau a sachau plastig mawr (ar gyfer anfon asesiadau di-arholiad) cyn pob cyfres.
Dosberthir deunyddiau ar gyfer cyfres yr Haf ym mis Rhagfyr/Ionawr gyda'r niferoedd wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio cofrestriadau rhagarweiniol. Defnyddir cofrestriadau terfynol ar gyfer dosbarthiad dilynol ym mis Mawrth. Os oes angen deunyddiau ychwanegol ar eich canolfan o hyd, e-bostiwch ymholiadaudosbarthu@cbac.o.uk gyda'r manylion (dylid cynnwys rhif y ganolfan, yr eitem ofynnol, y nifer a'r rheswm dros y cais). Noder na ddylid defnyddio llyfrau ateb CBAC ar gyfer ffug arholiadau.
Recriwtio Goruchwyliwr 2022/2023
Mae'r Swyddfa Arholiadau wedi datblygu Map Recriwtio a Swyddi Gwag Goruchwylwyr i gefnogi canolfannau gyda'r gwaith o recriwtio goruchwylwyr. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi canolfannau i hysbysebu swyddi gwag goruchwylwyr am ddim ac mae ar gael i aelodau'r Swyddfa Arholiadau a'r rhai nad ydynt yn aelodau. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael yma.
Mae'r rhan fwyaf o bosibiliadau wedi'u cynnwys yn llyfryn y CGC Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau y CGC (ICE) sy'n cynnwys cynlluniau wrth gefn, trefniadau achosion o ymgeiswyr yn cyrraedd yn hwyr a chamymddwyn. Dylai canolfannau ddilyn yr arweiniad a ddarperir yn y ddogfen hon.
Cyrraedd yn Hwyr
Gall ymgeiswyr sy'n cyrraedd yn hwyr sefyll arholiad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Mae unrhyw ymgeisydd sy'n cyrraedd dros awr ar ôl yr amser cychwyn yn Hwyr Iawn, ac mae'n rhaid i ganolfannau roi gwybod am hyn drwy system Porth Gweinyddu'r Ganolfan (CAP) y CGC, sydd ar gael o'r wefan ddiogel. Rhaid rhybuddio'r ymgeisydd na fydd CBAC efallai yn derbyn ei sgript.
Darperir mwy o wybodaeth am achosion cyrraedd yn hwyr iawn yn llyfryn ICE y CGC.
Gwrthdaro ar amserlen
Mae gwrthdaro ar amserlen yn digwydd pan fo dau arholiad neu fwy y mae ymgeisydd wedi'i gofrestru ar eu cyfer wedi'u trefnu ar gyfer yr un sesiwn. Dylai canolfannau reoli gwrthdaro ar amserlenni yn unol â'r arweiniad yn llyfryn ICE y CGC.
Rhaid i ganolfan sy'n rheoli amrywiad amserlen sicrhau bod goruchwyliaeth briodol yn cael ei chynnal drwy'r adeg er mwyn cadw cywirdeb yr arholiad.
Camymddwyn
Rhaid rhoi gwybod i ni am unrhyw achosion o gamymddwyn gan ymgeiswyr a rhaid llenwi a chyflwyno ffurflen JCQ/M1. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen camymddwyn.
Adrodd am wall posibl ar bapur cwestiynau neu achos o dorri diogelwch
Os ydych chi'n credu eich bod wedi dod o hyd i wall posibl ar bapur arholiad neu achos o dorri diogelwch, cysylltwch â CBAC ar unwaith.
Papurau cwestiynau TAG UG/Safon Uwch: 029 2026 5336
Papurau cwestiynau TGAU: 029 2026 5420
Cymwysterau eraill: 029 2026 5444
Am achosion o dorri diogelwch, cysylltwch â'r Tîm Cydymffurfio yn uniongyrchol: 029 2026 5351 neu camymddwyn@cbac.o.uk.
Sicrhewch fod y wybodaeth ganlynol gennych wrth law pan fyddwch yn galw:
- Manylion y gwall/toriad a amheuir a rhif ac enw'r papur yr effeithir arno
- Yr union amser y darganfuwyd y gwall yng nghyd-destun y sesiwn arholiad
- Rhyw syniad o sut mae'r gwall/toriad wedi effeithio ar ymgeiswyr
Mae gwybodaeth bellach am achos annhebygol o ganfod gwall mewn papur cwestiynau ar gael yma.
Cynllunio wrth gefn
Yn unol â rheoliadau'r CGC, dylai fod cynlluniau wrth gefn gan ganolfannau yn barod i'w defnyddio mewn achos o amhariad sylweddol a dylent sicrhau bod y staff perthnasol yn gyfarwydd â'r cynnwys. Darperir mwy o wybodaeth yn llyfr ICE y CGC.
Mae'r rheoleiddwyr, y CGC ac adrannau addysg y llywodraeth wedi paratoi cynllun wrth gefn ar y cyd i sicrhau bod ymateb cyson i unrhyw amhariad sylweddol i'r system arholiadau sy'n effeithio ar nifer mawr o ymgeiswyr. Gall enghreifftiau gynnwys tywydd garw, afiechyd sydd ar led, amhariad ar deithio neu fethiannau yn y system.
Mae dogfennau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio wrth gefn ar gyfer arholiadau ar gael yma:
Hysbysiad y CGC i Ganolfannau – Paratoi ar gyfer amhariadau i arholiadau
Cynllun wrth gefn y CGC
Canllawiau Ofqual ar yr hyn y dylai ysgolion a cholegau a chanolfannau eraill ei wneud os bydd amhariad mawr yn digwydd ar arholiadau ac asesiadau eraill
Cwestiynau ac Atebion wrth gefn CBAC
Dylai canolfannau fod â'u cynlluniau wrth gefn eu hunain ar waith mewn achos o amhariad sylweddol a dylent sicrhau bod y staff perthnasol yn gyfarwydd â'r cynnwys.
Gwirio gwybodaeth
Cyn rhoi'r sgriptiau yn y sach i'w hanfon, dylai canolfannau wirio gwybodaeth yr ymgeiswyr a'r pwnc ar glawr blaen llyfrynnau ateb yn erbyn y manylion ar y gofrestr presenoldeb er mwyn nodi unrhyw anghysondebau.
Gellir newid unrhyw wybodaeth anghywir fel rhif canolfan neu ymgeisydd anghywir, enw'r ymgeisydd yn anghyflawn neu god uned/cydran anghywir, ond rhaid ei gydlofnodi ar y sgript. Ni ddylai canolfannau newid cynnwys sgriptiau'r ymgeiswyr.
Pacio sgriptiau
Rhaid anfon sgriptiau cyflawn a'r gofrestr presenoldeb ategol i'r arholwr a hysbyswyd gan ddefnyddio'r amlenni sgriptiau plastig a'r labeli â chyfeiriadau a ddarperir.
I sicrhau bod sgriptiau'n cael eu prosesu'n gywir, dylai canolfannau sicrhau bod y manylion canlynol wedi'u cynnwys a bod modd eu gweld ar y pecyn yn ystod y broses o becynnu:
- Rhif y Ganolfan
- Cod y pwnc a'r uned/cydran
- Nifer y sgriptiau yn yr amlen.
Dylid rhoi unrhyw sgriptiau A3 ar ben sgriptiau'r ymgeiswyr eraill er mwyn sicrhau mai'r sgriptiau hyn fydd y rhai cyntaf i ymddangos wrth agor y pecyn.
Anfon sgriptiau
Rhaid anfon sgriptiau ar yr un diwrnod â'r arholiad lle bo hynny'n bosibl ac yn sicr o fewn un diwrnod gwaith i'r arholiad. Rhaid storio unrhyw sgriptiau a gedwir yn y ganolfan dros nos yng nghyfleuster storio diogel y ganolfan.
Dylai canolfannau yn Lloegr gyfeirio at y cyfarwyddiadau a gyhoeddir gan yr Adran Addysg ar gyfer anfon sgriptiau:
Taflenni clawr ysgrifennydd
Gellir llwytho i lawr taflenni clawr ysgrifennydd o wefan y CGC.
Ar gyfer arholiadau a gwblhawyd gan ddefnyddio ysgrifennydd, rhaid gosod Ffurflen 2 y CGC wedi’i llenwi y tu mewn i sgript orffenedig yr ymgeisydd.
Mae trefniant Trosglwyddo Ymgeisydd y CGC yn caniatáu i ymgeisydd gael ei drosglwyddo i ganolfan arholiadau gofrestredig CBAC arall i sefyll ei arholiadau mewn amgylchiadau penodol. Bydd y cofrestriad yn aros gyda'r ganolfan 'gofrestru' wreiddiol, ond caiff papurau cwestiynau eu hanfon i'r ganolfan 'letyol'.
Mae gwybodaeth bellach am y trefniant hwn ar gael ar wefan y CGC.
Rhaid prosesu ceisiadau trosglwyddo ymgeiswyr drwy Borth Gweinyddu Canolfannau'r CGC sydd ar gael ar wefan ddiogel CBAC.
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein cyn gynted â phosibl ac yn ddim hwyrach na’r dyddiadau isod mewn perthynas â’r cyfresi arholiadau perthynol:
Cyfres arholiadau |
Dyddiad |
Tachwedd 2023 |
4 Hydref 2023 |
Ionawr 2024 |
1 Rhagfyr 2023 |
Mehefin 2024 |
21 Mawrth 2024 |
Codir tâl am y gwasanaeth hwn. Gweler ein dogfen ffioedd am fanylion pellach.