Am wybodaeth yn ymwneud â Chofnodion, Dyddiadau cau, Ffioedd, Cofnodi Marciau, Cymedroli Allanol ac Adolygu Cymedroli, cyfeiriwch at y Llyfryn Gweinyddu.
Ffurflenni Asesu
Ni ddylid defnyddio ffurflenni asesu blaenorol na thaflenni datganiad neu daflenni amser ymgeiswyr. Gellir gweld ein Llyfrynnau Ymgeiswyr NEWYDD drwy Wefan Ddiogel CBAC.
*Gellir dod o hyd i ddatganiadau cadarnhau CA4 yn Llyfryn Ymgeisydd CA4
Agregu Bagloriaeth Cymru
Rhowch wybod i ni pa gorff dyfarnu y mae angen i ni gasglu data ganddo, trwy Ffurflen AOI1 Bagloriaeth Cymru.
E-gyflwyniad
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn defnyddio e-Gyflwyno ar gyfer cymedroli gwaith ymgeiswyr yn allanol. Am fwy o wybodaeth a chanllawiau am y broses, ewch i'r dudalen e-Gyflwyno.
Mae pob ysgol, coleg addysg uwch a sefydliad addysgol sydd yn darparu cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael cefnogaeth Swyddog Cefnogaeth Rhanbarthol, sydd yn darparu arweiniad a chefnogaeth.
|
Siân Coathup
sian.coathup@cbac.co.uk
|
Ardaloedd sydd dan eich gofal |
Gogledd a canolbarth de Cymru - ysgolion cyfrwng Saesneg |
Bywgraffiad |
Roeddwn yn athrawes Gwyddoniaeth yn y Gogledd am 19 mlynedd, yn dal amryw o swyddi adrannol a bugeiliol yn ystod fy ngyrfa. Drwy fy rôl fugeiliol cefais y cyfle i ganolbwyntio ar lesiant myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni orau y gallent. Rwy'n deall pa mor bwysig yw bod athrawon yn datblygu sgiliau dysgwyr er mwyn eu paratoi orau ar gyfer bywyd ar ôl ysgol/coleg.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd yn gwneud hynny - paratoi dysgwyr Cymru mewn ffordd sy'n unigryw i'n system addysg. |
|
Rhys Huws
rhys.huws@cbac.co.uk
|
Ardaloedd sydd dan eich gofal |
Ysgolion de orllewin a chanolbarth Cymru - cyfrwng Cymraeg a Saesneg |
Bywgraffiad |
Cyn ymuno â CBAC, roeddwn yn dysgu Daearyddiaeth mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro gan wneud sawl rôl - Pennaeth Adran, Pennaeth Blwyddyn a Swyddog Arholiadau. Roeddwn yn gydlynydd Bagloriaeth Cymru hefyd yn yr ysgol wrth i ni beilota’r cymhwyster yng Nghyfnod Allweddol 4 yn 2006.
Rwy'n gefnogwr mawr o’r cymhwyster 'Tystysgrif Her Sgiliau', a gallaf weld bod datblygu sgiliau yn werthfawr dros ben ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a’r profiadau a'r sgiliau y bydd dysgwyr ledled Cymru yn eu hennill.
|
|
Arwel Jones
arwel.jones@cbac.co.uk
|
Ardaloedd sydd dan eich gofal |
Ysgolion de ddwyrain Cymru ac Ysgolion cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog gogledd Cymru |
Bywgraffiad |
Dechreuais fy ngyrfa fel athro Bioleg ac rwyf wedi bod yn ffodus i fod yn Bennaeth Adran a Phennaeth Chweched Dosbarth mewn amryw o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne ddwyrain Cymru. Roeddwn hefyd yn Bennaeth Ysgol Uwchradd mewn ysgol ryngwladol cyn ymuno â thîm CBAC.
Rwy'n mwynhau rhannu fy ngwybodaeth a phrofiad gydag athrawon o wahanol ganolfannau i'w cefnogi i gyflwyno'r Dystysgrif Her Sgiliau. Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith hwn tra'n helpu canolfannau i baratoi i gyflwyno ac asesu cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Rwyf wrth fy modd â’r cyfleoedd mae'r cymhwyster newydd hwn yn eu cynnig i'n pobl ifanc yng Nghymru i'w helpu i ddod yn ddinasyddion hyderus a gweithgar, mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn eu gweithle yn y dyfodol. |