Tîm cefnogi'r Gymraeg mewn addysg
Yn dilyn toriadau i'r cyllid a dderbynnir yn flynyddol gan Awdurdodau Lleol Cymru bu'n rhaid dirwyn gwaith Tîm cefnogi'r Gymraeg mewn addysg i ben yn haf 2015. Gan fod cymaint o adnoddau defnyddiol yn parhau ar y rhan yma o'r wefan byddwn yn parhau i gynnal y tudalennau hyn ac rydym hefyd yn parhau i gynnal rhai o'r Cynadleddau Cenedlaethol.
Rheolwyd y Tîm cefnogi'r Gymraeg mewn addysg gan CBAC ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol Cymru. Roedd y tîm yn:
- paratoi pecynnau hyfforddi
- darparu sesiynau hyfforddi ar agweddau yn ymwneud ag addysgu'r Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith
- cynnal rhestr o hyfforddwyr cynorthwyol sydd ar gael i gynnal hyfforddiant ar bob agwedd yn ymwneud ag addysgu'r Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith
- trefnu cynadleddau cenedlaethol yn flynyddol.
- cynnal rhestr o hyfforddwyr cynorthwyol sydd ar gael i gynnal hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg ar amryfal agweddau holl bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol
- cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i roi'r Cynllun Trochi Hwyr ar waith
Dyma adnoddau enghreifftiol i'ch helpu gyda'r cynllun trochi hwyr.
- Tystiolaeth gan ddisgyblion - gellir defnyddio'r ffilm hon mewn cyfarfodydd gyda rhieni darpar-drochwyr
- Gwybodaeth a rhannu profiadau - cydlynwyr y Cynllun Trochi, penaethiaid a disgyblion yn rhannu profiadau
- Trochi Iaith Bynciol - arweiniad ieithyddol i athrawon sy'n addysgu 'trochwyr'
- Adnoddau trochi ar draws y cwricwlwm - bydd adnoddau addysgu yma ym Mawrth 2013
- Ateb cwestiynau athrawon
- Cynlluniau cwricwlwm enghreifftiol - gyda diolch i Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
- Cynllun trochi ieithyddol - Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Mae'r llyfryn hwn yn cynnig eglurhad o'r modd y mae'r Cynllun Trochi yn gweithio yn yr ysgol hon.
- Canolfan Iaith Porthmadog - Mae'r ffilm hon yn dangos y cynnydd ieithyddol dysgwyr oed uwchradd wrth iddynt gael eu 'trochi' yn y Gymraeg am gyfnod o wyth wythnos yn y ganolfan. Hefyd, cynigir tystiolaeth gan ddau o gyn-ddisgyblion y ganolfan.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Jonathan Rees, Cydlynydd y Gymraeg mewn Addysg
Ebost: jonathan.rees@cbac.co.uk