Llwybrau Cymraeg Gwaith (o 2019)
Llwybrau Cymraeg Gwaith
- Addysgu'r fanyleb newydd o Fedi 2019
- Asesiad cyntaf Mehefin 2020 (ac yna pob Ionawr a Mehefin)
- Cyflwyno'r gwaith a dyfarnu am y tro cyntaf Haf 2020
Mae Cymraeg Gwaith yn gymhwyster sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio'u Cymraeg a datblygu eu sgiliau dwyieithog yn y gweithle.
Cymraeg Gwaith
Mae'r cymhwyster ar gael yn Lefel Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3 gyda phedair uned sy'n werth dau gredyd ar bob lefel o fewn cyd-destun darparu gwasanaeth i’r cwsmer trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob uned yn gyfwerth ag 20 awr o oriau dysgu dan arweiniad (ODA). Asesir pob un o’r unedau yn fewnol gan y ganolfan trwy gyfrwng tasgau/aseiniadau pwrpasol; safonir y gwaith gan y bwrdd dyfarnu, CBAC. Teitlau’r unedau yw:
- Uned 1 - Siarad Cymraeg yn y Gweithle
- Uned 2 - Gwrando ac Ysgrifennu (uned gwbl newydd)
- Uned 3 - Darllen ac Ysgrifennu (uned gwbl newydd)
- Uned 4 - Ysgrifennu i Bwrpas
Mae’n rhaid i’r dysgwyr gwblhau o leiaf tair uned ar yr un lefel ar gyfer cyflawni’r cymhwyster. Bydd dau lwybr posib ar gyfer canolfannau sy’n cynnwys yr unedau canlynol er mwyn cyflawni’r cymhwyster:
Llwybr A Siarad: Siarad Cymraeg yn y Gweithle; Gwrando ac Ysgrifennu; Darllen ac Ysgrifennu
Llwybr B Ysgrifennu: Ysgrifennu i bwrpas; Gwrando ac Ysgrifennu; Darllen ac Ysgrifennu.
Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i ganolfannau ddewis yr unedau mwyaf addas ar gyfer anghenion eu dysgwyr.
Bwriedir y cymhwyster galwedigaethol hwn ar gyfer Cymry Cymraeg neu ddysgwyr sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg wrth gynnig gwasanaeth cwsmer yn broffesiynol yn y gweithle. Y nod yw y bydd myfyrwyr yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol a chyda hyder wrth ddelio â chwsmeriaid.
Wrth ddilyn y cymhwyster hwn, daw'r myfyrwyr yn ymwybodol pam bod defnyddio'r Gymraeg â chwsmeriaid yn bwysig yng Nghymru heddiw, a pha gywair sy'n briodol i'w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol. Byddant hefyd yn gallu delio'n hyderus â chwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gallu ymateb i amrywiol sefyllfaoedd o fewn y gweithle.
Samplau
Rhaid anfon samplau o waith at:
Nia Morgan
Parth Cymraeg
CBAC
245 Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX
Dyddiad cyflwyno samplau: 12 Rhagfyr (Cyfres Ionawr)/ 4 Mai (Cyfres Mehefin)
Cysylltwch â ni
Manylion Cyswllt Ychwanegol
Upcoming CPD Events
Adroddiadau Uwch Arholwyr
Mae adroddiadau Uwch Arholwyr Haf 2019 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r Haf hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.