Fel Arholwr neu Gymedrolwr profiadol, mae gennych rôl hanfodol yn y broses asesu. Mae rôl Uwch Arholwr neu Gymedrolwr yn rhoi boddhad ac yn gyfle unigryw. Gallwch elwa mewn sawl ffordd wrth ymgymryd â'r rôl hon, fel yr amlinellir isod.
Datblygu eich sgiliau rheoli ac arwain tîm ymroddedig
Fel Uwch Arholwr a Chymedrolwr, byddwch chi'n gyfrifol am reoli tîm o arholwyr a'u tywys nhw drwy'r broses asesu. Byddwch yn rhoi arweiniad i'ch tîm ac yn datblygu eich sgiliau rheoli project a chadw amser wrth fynd ymlaen.
Cryfhau eich arbenigedd dylunio asesiadau
Bydd gosod y cwestiynau a chynlluniau marcio ar gyfer y papur cwestiynau yn golygu eich bod yn cael cipolwg heb ei debyg ar y broses o greu, cyflwyno ac asesu papurau cwestiynau o un pen i'r llall.
Derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr
Byddwch yn derbyn hyfforddiant wrth greu asesiadau dibynadwy a dilys ynghyd ag arweiniad a chefnogaeth i sicrhau eich bod yn deall yn llawn y cyfrifoldebau, y disgwyliadau a'r dyddiadau cau ar gyfer eich swydd. Mae ein rhwydwaith cefnogi eang ar waith fel eich bod chi'n gallu cysylltu â thîm Penodedigion CBAC a'r Swyddog Pwnc ar unrhyw adeg.
Mwynhau cyfleoedd gweithio hyblyg
Mae'r rôl hon yn amrywiol, yn ddiddorol, yn un sy'n rhoi boddhad a hefyd yn rhoi cyfle i chi weithio'n hyblyg ar yr un pryd â'ch swydd bresennol, lle bo hynny'n briodol.
Rhwydweithio ag athrawon a phobl broffesiynol profiadol eraill
Fel Arholwr neu Gymedrolwr profiadol, mae gennych rôl hanfodol yn y broses asesu. Mae rôl Uwch Arholwr neu Gymedrolwr yn rhoi boddhad ac yn gyfle unigryw. Gallwch elwa mewn sawl ffordd wrth ymgymryd â'r rôl hon, fel yr amlinellir isod.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Cwestiynau Cyffredin.
I fod yn Uwch Arholwr neu Gymedrolwr, mae angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol. Dylech:
- fod yn addysgu neu'n darlithio ar hyn o bryd neu fod ymddeol gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad addysgu diweddar yn y pwnc yr ydych yn gwneud cais amdano
- bod â phrofiad asesu perthnasol o rôl arholi neu gymedroli blaenorol
- bod â chymwysterau academaidd addas yn y pwnc er enghraifft gradd a chymhwyster addysgu
- preswylio yn y DU
- darparu manylion canolwyr (efallai byddwn yn cysylltu â nhw). Dylech roi manylion eich prifathro neu bennaeth adran presennol neu fwyaf diweddar, lle bo hynny'n bosibl
- bod â phrofiad o reoli tîm
- bod â'r gallu i weithio'n dda o dan bwysau a chyrraedd terfynau amser tynn
- bod ar gael i ddarparu cefnogaeth dros y ffôn neu drwy e-bost i Arholwyr neu Gymedrolwyr yn eich tîm
- bod ar gael am uchafswm o 10 diwrnod y flwyddyn a all fod yn ystod y tymor, ar benwythnosau neu adeg y gwyliau i fynychu PGPC, cyflwyno mewn cynadleddau arweinwyr tîm a chynadleddau arholwyr a mynychu cyfarfodydd safoni a dyfarnu
- bod ar gael am gyfnod o tua 6 wythnos pan fydd Arholwyr a/neu Gymedrolwyr yn ymgymryd â gwaith hyd nes y cyfarfod dyfarnu
- bod â'ch cyfrifiadur neu liniadur Windows eich hun gyda mynediad i'r rhyngrwyd y tu allan i safle'r ysgol.
Gall rhai meini prawf amrywio yn dibynnu ar y cymhwyster. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd penodol am ofynion penodol.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Cwestiynau Cyffredin.
Mae nifer o gamau yn y broses o gael eich penodi'n Uwch Arholwr neu'n Uwch Gymedrolwr:
1) Llwytho'r ffurflen gais i lawr
Ewch i'r dudalen swyddi gwag a llwythwch y disgrifiad swydd/ffurflen gais i lawr.
2) Sut i wneud cais:
Os ydych chi'n dymuno gwneud cais am y swydd, ac nad ydych yn gweithio i CBAC ar hyn o bryd, ewch i amp.wjec.co.uk a chlicio 'Gwneud Cais i fod yn Arholwr' i lenwi'r ffurflen gais.
Os ydych chi'n gweithio i CBAC ar hyn o bryd, mewngofnodwch i'ch cyfrif Porth Rheoli Penodiadau a chliciwch ar yr eicon 'Fy Nghais' ar yr hafan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu rôl ar y tab 'maes pwnc', a llenwch feysydd eraill y cais.
3) Adolygu cais
Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu o fewn pythefnos i'r dyddiad cau ac efallai y byddwn yn cysylltu â'r canolwyr er mwyn gwirio. Mae'r amser a gymerir i adolygu'r cais yn dibynnu ar y nifer o geisiadau sydd wedi'u derbyn.
4) Cyfweliad dros y ffôn neu dimau Microsoft
Byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad dros y ffôn gyda'n panel. Mae'r panel yn cynnwys aelod o dîm penodedigion CBAC, Swyddog Pwnc CBAC a'r Cadeirydd ar gyfer eich cymhwyster.
5) Tasg ysgrifenedig
Byddwn yn anfon tasg ysgrifenedig atoch i'w chwblhau yn eich amser eich hun, a fydd yn gysylltiedig â dyletswyddau Uwch Arholwr neu Gymedrolwr. Byddwch yn derbyn arweiniad pellach drwy e-bost cyn y dasg.
6) Cynnig swydd
Os oes swydd wag addas ar gael, byddwn yn anfon llythyr i'r cyfeiriad sydd wedi'i nodi ar eich ffurflen gais i gynnig y swydd i chi yn ffurfiol. Os ydych yn derbyn y swydd, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod wyneb yn wyneb a bydd deunyddiau hyfforddi pellach yn cael eu darparu. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Cwestiynau Cyffredin.
Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth eang i Uwch Arholwyr a Chymedrolwyr.
Mae ein pecyn cefnogi'n cynnwys:
- Canllaw ar ysgrifennu papurau cwestiynau
- Cyfarfodydd gyda'r Swyddog Pwnc i amlinellu disgwyliadau, cyfrifoldebau a gweithdrefnau
- Cefnogaeth gan y Cadeirydd a Swyddog Pwnc ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor Gwerthuso Papur Cwestiynau (PGPC)
- Arweiniad cyn y gynhadledd hyfforddi wyneb yn wyneb ar gyfer Arholwyr/Cymedrolwyr
- Rhwydweithio ag Uwch Arholwyr/Gymedrolwyr eraill ar gyfer eich pwnc.