Mae arholi a chymedroli yn unigryw, yn ddiddorol ac yn rhoi boddhad. Gall hefyd gael ei wneud ar y cyd â'ch rôl bresennol. Gallwch elwa mewn llawer o ffyrdd eraill hefyd, fel y canlynol:
- Gwella eich gwybodaeth am y pwnc
Fel Arholwr neu Gymedrolwr, byddwch yn cael cipolwg amhrisiadwy ar y broses asesu yn CBAC, yn gwella eich sgiliau a hefyd yn cynyddu eich dealltwriaeth o'ch pwnc. Byddwch chi'n addysgwyr gwell oherwydd hynny.
Ar ôl i chi ennill profiad fel Arholwr neu Gymedrolwr, mae cyfleoedd i chi symud ymlaen i rôl uwch er enghraifft Arweinydd Tîm neu Uwch Arholwr/ Gymedrolwr. Mae rolau uwch yn cynnwys gweithio'n ganolog yn eich pwnc ac ymgymryd â thasgau fel ysgrifennu papurau cwestiynau a chynlluniau marcio, gweithio'n rhan o dîm arbenigol i ddatblygu manylebau newydd neu reoli tîm o arbenigwyr pwnc.
- Rhwydweithio ag athrawon a phobl broffesiynol profiadol eraill
Ehangu ar eich cysylltiadau drwy gydol y broses asesu drwy rwydweithio ag athrawon eraill sy'n addysgu'r un fanyleb. Mae'r broses arholi a chymedroli yn cynnwys trafodaeth ryngweithiol a rhannu arferion gorau y byddwch chi'n elwa ohonyn nhw.
- Derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr
Rydym yn darparu hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth ardderchog drwy gydol y broses asesu i sicrhau eich bod yn hyderus yn y gwaith y byddwch yn ymgymryd ag ef. Mae ein rhwydwaith cefnogi eang ar waith fel eich bod chi'n gallu cysylltu â'ch Arweinydd Tîm neu Uwch Arholwr penodedig a thîm Penodedigion CBAC wrth i chi weithio drwy'r sgriptiau a ddyrannwyd i chi.
Er bod gwaith arholi a chymedroli yn ddiddorol ac yn rhoi boddhad, mae'r rôl yn hyblyg oherwydd bod modd gwneud y marcio gartref ar yr un pryd â'ch swydd addysgu bresennol am y cyfnod byr.
Rydym yn cynnig pecyn talu cystadleuol i'n Harholwyr a'n Cymedrolwyr am y gwaith a wneir ac rydym hefyd yn talu am unrhyw gostau teithio i fynychu cyfarfodydd os oes angen. Lle y bo'n briodol, efallai y bydd modd i chi hawlio costau llety. Yn ddibynnol ar delerau ac amodau.
I fod yn Arholwr neu'n Gymedrolwr, mae angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol. Dylech:
- fod yn addysgu neu’n darlithio ar hyn o bryd neu fod wedi ymddeol gyda phrofiad addysgu ac asesu yn y pwnc a’r lefel yr ydych yn gwneud cais amdano
- bod â chymwysterau academaidd addas yn y pwnc, er enghraifft gradd a chymhwyster addysgu
- darparu manylion canolwyr (efallai byddwn yn cysylltu â nhw). Dylech roi manylion eich prifathro neu bennaeth adran presennol neu fwyaf diweddar, lle bo hynny'n bosibl
- preswylio yn y DU
- bod ar gael am gyfnod o tua 3 wythnos i ymgymryd â gwaith dwys yn marcio sgriptiau a chymedroli gwaith cwrs ym mis Mai - Gorffennaf (neu'n gynnar yn y gwanwyn os yn berthnasol)
- mynychu cynhadledd hyfforddi wyneb yn wyneb orfodol ar gyfer Arholwyr/ Cymedrolwyr
- bod â'ch cyfrifiadur neu liniadur Windows eich hun gyda Windows 8 neu ddiweddarach wedi’i osod arno (efallai y cefnogir systemau eraill, gofynnwch)
- bod â mynediad band llydan diogel
- Cyn gwneud cais, dylech ymgyfarwyddo â'r Cwestiynau Cyffredin.
Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth eang i Arholwyr a Chymedrolwyr o ddiwrnod cyntaf y penodiad hyd at y diwrnod y mae'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi.
Mae ein pecyn cefnogi'n cynnwys:
- Canllaw rhagarweiniol i Arholwyr a Chymedrolwyr newydd – mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y gynhadledd hyfforddi, marcio sgriptiau a logisteg.
- Ein cynhadledd hyfforddi Arholwyr / Cymedrolwyr flynyddol sy'n benodol i'ch cymhwyster
- Deunyddiau hyfforddi ychwanegol wedi'u teilwra a fydd yn cael eu dosbarthu yn y gynhadledd
- Anfonir sgriptiau a chynlluniau marcio manwl atoch yn syth ar ôl yr arholiad fel eich bod chi'n gallu ymgyfarwyddo'n llawn â'r cynnwys cyn y gynhadledd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau o gwbl, rydym yn eich annog i drafod y rhain yn y gynhadledd.
- Pecyn ysgrifennu yn cynnwys labeli, llyfryn cyfarwyddiadau a deunyddiau ychwanegol
- Arweinydd Tîm a/neu Uwch Arholwr/Gymedrolwr penodedig a fydd yn eich tywys drwy'r broses
- Cefnogaeth dros y ffôn ac ar e-bost gan ein tîm penodedigion profiadol a'ch Arweinydd Tîm a/neu Uwch Arholwr/Gymedrolwr penodedig
- Arweiniad ar sut i ddefnyddio ein systemau
Does dim byd yn haws na chael eich derbyn i fod yn arholwr neu'n gymedrolwr. Dim ond dilyn y camau isod y mae angen ei wneud:
- Gwneud cais ar-lein
Dylid gwneud pob cais i fod yn Arholwr neu'n Gymedrolwr ar-lein drwy wefan y penodedigion. I wneud cais, dylech greu cyfrif drwy ddarparu eich enw llawn, cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair a chwestiwn diogelwch.
Bydd angen i chi roi manylion canolwyr ar yr un pryd â'r cais felly sicrhewch fod yr holl wybodaeth gennych wrth ddechrau'r broses.
Noder, rydym yn croesawu ceisiadau hyd yn oed os nad oes swyddi gwag ar gael ar yr adeg benodol honno. Bydd eich cais yn cael ei gofnodi a byddwn yn cyfeirio ato, os bydd swydd wag ar gael yn y dyfodol.
- Darparu Geirda
Unwaith y byddwch wedi'i gyflwyno, bydd statws eich cais ar-lein yn ymddangos fel "disgwyl am eirda" ar y wefan hyd nes bydd eich canolwr wedi cwblhau eich geirda ar y system.
- Aros am gymeradwyaeth
Unwaith y byddwch wedi derbyn geirda addas, bydd statws eich cais ar-lein yn newid o "disgwyl am eirda" i "disgwyl am asesiad". Bydd y newid statws yn dibynnu ar yr amser a gymerir i dderbyn unrhyw eirda amdanoch. Yna byddwn yn gwirio eich cais yn llawn ac os yw'n llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at ein rhestr wrth gefn wedi'i chymeradwyo.
Ceisiadau Llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus a bod swydd wag addas ar gael, byddwn yn anfon e-bost atoch yn cynnig y swydd i chi'n ffurfiol ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
Os derbyniwch y swydd, fe'ch gwahoddir i gyfarfod Arholwr a darperir deunyddiau hyfforddi pellach.
Os ydych yn gwrthod y swydd, bydd eich cais yn aros ar ein rhestr wrth gefn ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi ar gyfer y flwyddyn academaidd olynol, os bydd swydd wag ar gael. Os nad ydych chi am i ni gysylltu â chi ynglŷn â swyddi gwag yn y dyfodol, rhowch wybod i ni a byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar y rhestr.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Cwestiynau Cyffredin.