Mae ein manylebau yn cael eu hysgrifennu gan arbenigwyr pwnc profiadol. Pan fyddwn yn datblygu manylebau, rydym yn ymgynghori'n eang ag athrawon, arbenigwyr y sector a rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau eu bod wedi'u hysgrifennu'n glir, bod lefel yr anhawster yn briodol, a'u bod yn ddiddorol i ddysgwyr.
Mae'n rhaid i fanylebau fodloni rheolau'r rheoleiddwyr cyn y gellir eu cynnig i ysgolion a cholegau. Mae'r rheolau hyn yn wahanol rhwng Cymru a Lloegr, ac maen nhw hefyd yn wahanol yn dibynnu ar y math o gymhwyster.
Mae datblygu manyleb newydd fel arfer yn cymryd tua blwyddyn. Ar ôl trafodaethau cychwynnol gyda'r rheoleiddwyr ynglŷn â'u cynigion ar gyfer y cynnwys a'r rheolau asesu, rydym yn dechrau ein proses ddatblygu ein hunain. Ar ôl pennu'r holl ofynion rheoleiddiol, rydym yn cwblhau ein manyleb (a deunyddiau asesu enghreifftiol) ac yn eu cyflwyno i'r rheoleiddiwr.
Ofqual (Lloegr)
Yn Lloegr, yr Adran Addysg sy'n penderfynu ar gynnwys y pwnc ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch. Y rheoleiddiwr, Ofqual, sy'n penderfynu ar y rheolau asesu (a elwir yn Amodau) ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cynigion yn bodloni'r holl reolau hyn er mwyn i Ofqual achredu'r cymhwyster.
Cymwysterau Cymru (Cymru)
Yng Nghymru, y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, sy'n penderfynu ar gynnwys y pwnc a'r rheolau asesu ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cynigion yn bodloni'r holl ofynion hyn er mwyn i Cymwysterau Cymru gymeradwyo'r cymhwyster.
Rheoleiddwyr cymwysterau ac adrannau'r llywodraeth
Ar gyfer cymwysterau eraill, gan gynnwys Dyfarniadau Galwedigaethol a chymwysterau Cyffredinol Cymhwysol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein manylebau yn bodloni'r holl feini prawf perthnasol a bennir gan adrannau'r llywodraeth a/neu'r rheoleiddwyr.
Mae ein hasesiadau a'n harholiadau yn cael eu gosod i fesur y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yn ein manylebau.
Creu deunyddiau asesu
Mae ein Huwch Arholwyr yn gyfrifol am ysgrifennu ein tasgau asesu a phapurau arholiad. Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried yn ofalus:
- cynnwys y fanyleb
- Yr amcanion asesu
- cwestiynau arholiad blaenorol
- sut roedd myfyrwyr yn ymateb i asesiadau blaenorol
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein papurau arholiad yn hygyrch a chynhwysol i bob dysgwr. Ni ddylai asesiad hygyrch a theg gynnwys unrhyw nodweddion amherthnasol a allai atal rhai grwpiau o ddysgwyr rhag dangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud yn llawn.
Drwy hyfforddiant a'r camau a gymerwn i ddatblygu asesiadau (fel y gwelir yn yr adran flaenorol), gwnawn ein gorau i sicrhau bod sylw dyledus wedi'i roi i faterion cydraddoldeb a hygyrchedd ar gyfer pob dysgwr yn y broses o ddatblygu asesiadau er mwyn dileu tuedd, gwahaniaethu ac anfantais.
Sut rydym yn cyflawni hyn:
- Rydym yn defnyddio'r broses 'Asesu Effaith ar Gydraddoldeb', a luniwyd i sicrhau na fyddai ein hasesiadau yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn unrhyw nodwedd warchodedig fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb (2010).
- Rydym yn gweithio gyda gwahanol randdeiliaid, fel BATOD (Cymdeithas Brydeinig Athrawon Pobl Fyddar (British Association of Teachers of the Deaf)) a WAVIE (WelshAssociation of Vision Impairment Educators), i fynd ati i ofyn am adborth ar hygyrchedd a chynhwysedd ein hasesiadau. Rydym hefyd yn aelod gweithgar o'r Fforwm Ymgynghori ynghylch Mynediad (Access Consultation Forum), a gaiff ei gadeirio gan Ofqual.
- Rydym yn cadw at ganllawiau a gyhoeddwyd yn y ddogfen 'Mynediad Teg drwy Ddylunio' ac yn nogfen UKAAF 'Best Practice Guidance for Producers and Modifiers'.
- Rydym yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb a hygyrchedd gorfodol i'n penodedigion sy'n rhan o'r gwaith o lunio deunyddiau asesu.
Dyma ein dogfennau hyfforddiant hygyrchedd ar gyfer penodedigion: 'Canllawiau ar Ddylunio Asesiadau Hygyrch a Chynhwysol' a 'Sut i Ddylunio Deunyddiau Asesu Hygyrch a Chynhwysol i Ddysgwyr Lliwddall'.
Yng nghyd-destun darparu cyn ddeunyddiau asesu mewn fformatau addasedig, mae CBAC wedi dilyn dull egwyddorion i sicrhau ein bod yn gallu bodloni anghenion dysgwyr yn rhesymol. Mae ein polisi yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Ymdrin â gwallau yn ein hasesiadau/ papurau arholiad
Yn flynyddol rydym yn cynhyrchu tua 3,000 o bapurau cwestiynau a deunyddiau asesu gwahanol.Er ein bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein deunyddiau asesu a'n papurau arholiad yn gywir, gall fod gwallau ar nifer fach o achlysuron. Gallan nhw gael eu canfod cyn, yn ystod neu ar ôl arholiad.
Gwallau cyn yr arholiad
Os byddwn yn nodi gwall cyn yr arholiad, byddwn naill ai'n:
- cysylltu â'r ysgol neu'r coleg ac yn darparu papur newydd
- darparu cywiriad sy'n cael ei ddarllen i'r myfyrwyr, gan ddarparu'r wybodaeth gywir
- darparu hysbysiad i'r goruchwyliwr am fater bach iawn (er enghraifft atalnod llawn sydd ar goll) na fydd yn effeithio ar allu myfyriwr i gwblhau'r asesiad. Ni fydd y rhybudd hwn yn cael ei ddarllen i'r myfyrwyr, neges er gwybodaeth yn unig yw hon.
Gwallau yn ystod yr arholiad
Os yw myfyriwr yn credu bod gwall ar ein papurau arholiad, rhaid iddo godi ei law a rhoi gwybod i'r goruchwyliwr ar unwaith. Bydd y Swyddog Arholiadau yn cysylltu â ni ar unwaith, a bydd aelod o'n tîm yn cadarnhau a oes gwall. Bydd y Swyddog Arholiadau yn derbyn y camau i'w cymryd a fydd naill ai'n:
- hysbysu'r myfyrwyr am yr hyn sy'n gywir
- hysbysu'r myfyrwyr y dylen nhw anwybyddu'r cwestiwn a symud ymlaen i'r cwestiynau eraill yn yr arholiad
Yn dibynnu ar natur y gwall, efallai y bydd ein tîm yn hysbysu canolfannau eraill o'r mater naill ai yn ystod neu ar ôl yr arholiad.
Gwallau a nodwyd ar ôl yr arholiad
Efallai y bydd myfyriwr neu athro o dro i dro yn nodi gwall ar ôl cwblhau'r arholiad. Dylai'r myfyriwr gysylltu â'i athro neu Swyddog Arholiadau i drafod y mater. Dylai'r athro neu'r Swyddog Arholiadau roi gwybod i ni am y gwall.
Sicrhau tegwch i bob myfyriwr os oes gwall ar bapur arholiad
Camau cywiro cychwynnol
Ar ôl nodi gwall mewn papur arholiad, rydym yn cymryd y cam(au) canlynol er mwyn sicrhau nad yw'r un ymgeisydd dan anfantais:
- asesu effaith y gwall
- adolygu a newid y cynllun marcio os yw'n briodol
- darparu hyfforddiant ychwanegol i'n harholwyr
- monitro'r marcio, gan ddefnyddio ein proses safonol, gyda chamau ychwanegol i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gymhwysir i'r cynllun marcio yn cael eu cymhwyso'n gywir
- cynnal dadansoddiad ystadegol o ganlyniadau myfyrwyr, ar ôl cwblhau'r holl farcio
Newid marciau
Os yw'r dadansoddiad ystadegol yn darparu tystiolaeth y gallai fod rhai myfyrwyr wedi bod dan anfantais oherwydd y gwall, byddwn yn rhoi camau cywiro ar waith, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn y marc mwyaf priodol. Rydym yn ystyried:
- perfformiad mewn cwestiynau'n asesu'r un sgiliau
- perfformiad yng ngweddill y cymhwyster
Yn seiliedig ar amrywiaeth o ddadansoddiad ystadegol, byddwn yn addasu marc terfynol myfyriwr yn systematig os oes tystiolaeth ddigonol i awgrymu y dylem wneud hynny. Bydd marc pob myfyriwr yn cael ei ystyried yn ofalus ym mhob cam o'r broses. Dim ond mewn amgylchiadau penodol y byddwn yn gwneud yr un addasiad i farciau pob myfyriwr. Os byddwn yn addasu marc, bydd esboniad yn cael ei roi i'r ysgol neu'r coleg yn amlinellu'r broses a ddilynwyd, gan gynnwys rhesymeg.
Mae'n hynod bwysig bod y Swyddog Arholiadau a'r goruchwylwyr arholiadau yn yr ysgol neu'r coleg yn darparu'r papur arholiad cywir i bob myfyriwr. Mae gwiriadau mwy penodol y mae'n rhaid i'r staff yn yr ysgol neu'r coleg eu cyflawni er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y papur cywir, fel yr amlinellir yn hysbysiad i ganolfannau y CGC.
Os oes posibilrwydd bod toriad diogelwch wedi digwydd a bod papurau cwestiynau wedi'u rhoi i'r ymgeiswyr ar y diwrnod anghywir neu yn y sesiwn anghywir, mae'n hanfodol bod y ganolfan:
- yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn aros yn yr ystafell(oedd) arholiadau dan oruchwyliaeth y ganolfan
- yn sicrhau bod y papurau cwestiynau anghywir yn cael eu casglu oddi wrth yr ymgeiswyr ond ddim yn cael eu cymryd o'r ystafell(oedd) arholiadau
- yn cysylltu â ni ar unwaith am gyfarwyddiadau pellach.
Mae ein harholwyr yn athrawon cymwys a phrofiadol yn y pwnc y maen nhw'n ei farcio neu'n ei gymedroli. Maen nhw'n cael eu hyfforddi'n llawn bob blwyddyn i farcio neu gymedroli yn unol â'n safonau a'n gofynion.
Rôl ein harholwyr a'n cymedrolwyr
Mae arholwyr yn marcio gwaith myfyrwyr sy'n cael ei gyflwyno i ni i'w asesu Mae cymedrolwyr yn adolygu'r marciau a ddyfarnwyd i'r myfyrwyr gan eu hathrawon neu diwtoriaid, ar gyfer gwaith a asesir yn fewnol, er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu marcio i'r safon a gytunwyd.
Hyfforddi ein harholwyr a'n cymedrolwyr
Ar ddechrau'r cyfnod marcio a chymedroli, mae arholwyr a chymedrolwyr yn adolygu'r un detholiad o waith myfyrwyr ac yn cyfarfod mewn grwpiau pwnc i drafod a chymharu eu gwaith marcio neu gymedroli, yn seiliedig ar y cynllun marcio a'r wybodaeth a ddarperir gan yr Uwch Arholwr neu'r Uwch Gymedrolwr.
Cynnal ein safonau marcio
Drwy gydol y cyfnod marcio a chymedroli, mae arholwr neu gymedrolwr profiadol arall yn gwirio sampl o waith gan bob arholwr neu gymedrolwr am gywirdeb a chysondeb. Rhoddir adborth i arholwyr a chymedrolwyr ar eu marcio neu gymedroli. Mae rhai arholwyr neu gymedrolwyr nad ydyn nhw'n marcio neu'n cymedroli'n gywir yn cael eu hatal rhag cwblhau gwaith pellach. Bydd y gwaith maen nhw wedi'i gwblhau yn cael ei ail-farcio neu ei ail-gymedroli gan arholwr neu gymedrolwr arall.
Ar ôl cwblhau'r holl waith marcio a chymedroli, mae'r broses ddyfarnu yn dechrau.
Weithiau y bydd myfyriwr neu'r ysgol/coleg efallai'n teimlo nad yw'r radd derfynol yn ôl y disgwyl. Gall yr ysgol neu'r coleg wneud cais am un o'n gwasanaethau ar ôl y canlyniadau ar ran yr ymgeisydd. Ni chaniateir i ymgeiswyr, ac eithrio ymgeiswyr preifat, gysylltu â ni'n uniongyrchol am wasanaethau ar ôl y canlyniadau.
Gwasanaethau sydd ar gael – asesiadau allanol ac arholiadau
Y prif wasanaethau y gallai'r ysgol/coleg wneud cais amdanyn nhw ar gyfer cydrannau/unedau a asesir yn allanol yw:
- Gwiriadau Clerigol
- Adolygiadau o'r Marcio
Gall ysgolion/colegau ac ymgeiswyr preifat ofyn am gopi o sgript arholiad cyn cyflwyno cais am adolygiad o'r marcio.
Gwasanaethau sydd ar gael – asesiadau di-arholiad a gwaith cwrs
Ar gyfer asesiadau di-arholiad (NEA) sy'n cael eu hasesu'n fewnol neu waith cwrs/asesiadau dan reolaeth, gall yr ysgol neu goleg ofyn am adolygiad o'r gwaith a gymedrolwyd. Adolygiad yw hwn o'r sampl cyfan a gymedrolwyd yn wreiddiol ac nid yw ar gael i fyfyrwyr unigol.
Newidiadau mewn canlyniadau
Dim ond os canfyddir gwall marcio, cymedroli neu weinyddol y caiff marciau eu newid ar ôl eu hadolygu. Gellir newid marciau a graddau naill ai i fyny neu i lawr ac mae'n rhaid i fyfyrwyr roi eu caniatâd cyn i'r ysgol/coleg gyflwyno gwiriad clerigol neu adolygiad o farcio ar gyfer cydrannau/unedau a asesir yn allanol.
Os nad yw'r radd wreiddiol yn newid, codir tâl ar yr ysgol neu'r coleg am y gwasanaeth.
Ewch i'n safle gwasanaethay ar ôl canlyniadaru
Ffiniau Graddiau
Dim ond gradd llwyddo sydd ar gael i rai cymwysterau ac yma mae'r broses ddyfarnu yn sicrhau bod myfyrwyr wedi cyrraedd y safon ofynnol i ennill y cymhwyster. Mae gan gymwysterau fel TGAU a Safon Uwch nifer o raddau gwahanol sy'n dangos lefel cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae cael graddau gwahanol yn golygu penderfynu ymhle y dylai'r ffiniau rhwng pob gradd fod. Rydym bob amser yn anelu at greu asesiadau gyda'r un lefel o anhawster, ond gan fod y papurau arholiad a'r cynlluniau marcio'n wahanol bob blwyddyn, mae'n bosibl y gallai asesiad fod ychydig yn fwy neu'n llai heriol na'r rhai blaenorol. I sicrhau nad yw myfyrwyr dan anfantais oherwydd hyn, pennir ffiniau graddau pob papur arholiad ac unrhyw asesiad di-arholiad ar wahân.
Y cyfarfod dyfarnu
Mae sefydlu'r ffiniau graddau ar gyfer pob asesiad yn digwydd mewn cyfarfod dyfarnu lle, ar gyfer pob ffin gradd 'allweddol', mae Cadeirydd yr Arholwyr ac arholwyr profiadol eraill y cymhwyster yn adolygu gwaith myfyrwyr yn y gyfres arholiadau gyfredol yn erbyn gwaith o gyfresi blaenorol, i bennu'r marciau lle mae'r perfformiad o ansawdd tebyg i'r hyn a welir ar ffin y radd mewn cyfres arholiadau flaenorol. Cyfrifir ffiniau graddau eraill yn rhifyddol, yn seiliedig ar safle'r ffiniau gradd allweddol.
Cynnal safonau ar draws cyfresi arholiadau
I wneud cymhariaeth deg â chyfres arholiadau flaenorol, defnyddir ystadegau hefyd i weld a yw'r grŵp o fyfyrwyr eleni yn wahanol i'r rhai'n y flwyddyn flaenorol, ac i gael syniad cychwynnol o'r canlyniadau disgwyliedig. Mae'r ystadegau hyn yn cymharu ffactorau megis oedran, rhyw, math o ysgol, a pherfformiad myfyrwyr mewn arholiadau blaenorol. Yr enw a roddir ar y dull lle mae'r dystiolaeth hon yn fan cychwyn ar gyfer dyfarniad yw'r dull 'canlyniadau cymaradwy' – ond nid oes byth gwota ar gael ar gyfer pob gradd.
Pennu ffiniau'r graddau
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth yn ofalus, mae Cadeirydd yr Arholwyr yn penderfynu ar yr hyn y dylai isafswm marciau pob gradd fod er mwyn sicrhau bod ffiniau graddau'r flwyddyn gyfredol yn cyfateb o ran safon â'r flwyddyn flaenorol. Wrth wneud y dyfarniad terfynol hwn, mae'n rhaid i'r Cadeirydd ystyried gofynion ac anhawster yr asesiad, yn ogystal â'r newidiadau i safon y marcio a gymhwyswyd gan y marcwyr, a pha mor gyfarwydd yw'r canolfannau a'r myfyrwyr â'r asesiadau. Caiff argymhellion y Cadeirydd eu cofnodi a'u cyflwyno i'w cymeradwyo gan uwch reolwyr sy'n gyfrifol am safonau, ac yn y pen draw, y Swyddog Cyfrifol. Bydd rheoleiddwyr hefyd yn cymeradwyo ffiniau graddau a chanlyniadau cyn i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi i ymgeiswyr.
Yna, byddwn ni'n cymhwyso'r ffiniau graddau hyn ac yn cyfrifo'r radd a gyflawnwyd gan bob myfyriwr. Mae'r broses hon yn sicrhau y dylai myfyriwr sydd wedi cyrraedd yr un lefel o gyrhaeddiad gael yr un radd, waeth pryd y cwblhawyd y cymhwyster.
Er mwyn sicrhau y gallwn ymddiried yn safon y cymwysterau, mae'r broses hon yn cael ei goruchwylio gan reoleiddwyr y cymwysterau (Ofqual yn Lloegr, Cymwysterau Cymru yng Nghymru a CCEA yng Ngogledd Iwerddon).