Cofrestriadau terfynol
Gellir gwneud cofrestriadau terfynol naill ai drwy Cyfnewid Data Electronig (EDI) neu drwy wefan ddiogel CBAC.
Mae manylion llawn ynghylch y prosesau hyn, yn cynnwys y terfynau amser perthnasol, i'w cael yn ein llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau.
Cofrestriadau hwyr yw'r cofrestriadau hynny sy'n cael eu gwneud ar ôl y terfyn amser diwygio cofrestriadau, a chofrestriadau hwyr iawn yw'r cofrestriadau hynny sy'n cael eu gwneud ar ôl y terfyn amser cofrestriadau hwyr. Mae ffioedd ychwanegol am unrhyw gofrestriadau a wnaed ar ôl i bob un o'r terfynau amser hyn fynd heibio.
Mae ein ffioedd cofrestru (yn cynnwys ffioedd hwyr a hwyr iawn) wedi'u cyhoeddi yn ein dogfennau ffioedd:
> Ffioedd Mynediad: 2022/23
> Ffioedd Mynediad: 2023/24
> Ffioedd Mynediad: 2024/25
Mae gwybodaeth am ailsefyll cymwysterau ar gael yn ein Canllaw i Ofynion Ailsefyll.
Codau Cofrestru, Rhifau Cymeradwyo Cymwysterau (QANs) a darpariaeth cyfresi
Mae codau cofrestru, darpariaeth cyfresi a rhifau QAN i'w gweld yn ein llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau.
Diwygiadau i Gofrestriadau a Thynnu'n ôl
Wrth ddiwygio cofrestriadau, rhaid i ganolfannau ddefnyddio'r un dull cofrestru a ddefnyddion nhw wrth gyflwyno eu cofrestriadau cychwynnol (naill ai drwy EDI neu'r wefan ddiogel).
Rhestrir pob terfyn amser cofrestru a diwygio yn y Llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau. Rhestrir manylion y diwygiadau taladwy a'r ffioedd ar gyfer y rhain yn ein dogfen ffioedd uchod.
Pynciau dynodedig ar gyfer canolfannau yng Nghymru
Mae'r cymwysterau CBAC Eduqas canlynol wedi eu dynodi ar hyn o bryd gan Cymwysterau Cymru i'w defnyddio gan ganolfannau yng Nghymru:
- TGAU (9-1) Electroneg
- TGAU (9-1) Astudiaethau Ffilm
- TGAU (9-1) Daeareg
- TGAU (9-1) Lladin
- TGAU (9-1) Cymdeithaseg
- UG ac Uwch Electroneg
- UG a Safon Uwch Astudiaethau Ffilm
- UG a Safon Uwch Daeareg
Mae gwybodaeth bellach am gofrestru ar gyfer cymwysterau dynodedig a gwneud cais am bapurau cwestiynau cyfrwng Cymraeg ar gael yma.
Mae gwybodaeth am ddiwygio cymwysterau yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.
Ffordd o gynnig amcangyfrif i ni o nifer yr ymgeiswyr y mae canolfannau’n bwriadu eu cofrestru ar gyfer uned neu gymhwyster yw cofrestriadau rhagarweiniol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 10 Hydref. Mae cofrestriadau rhagarweiniol yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth ar gyfer CBAC, a chânt eu defnyddio i gyfrifo faint o ddeunydd ysgrifennu arholiadau, deunyddiau a ryddheir ymlaen llaw a phapurau arholiad cynnar i'w hanfon i ganolfannau. Mae'n hanfodol felly eu bod yn cael eu cyflwyno mor gywir â phosibl, ac erbyn y dyddiad cau, sef 10 Hydref.
Mae data sylfaenol yn ofynnol gan unrhyw ganolfan sy'n dymuno cofrestru gan ddefnyddio EDI (Cyfnewid Data Electronig). Mae data sylfaenol yn cael eu mewnforio i System Gwybodaeth Rheoli (MIS) y ganolfan ac maent yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y pynciau amrywiol mae CBAC Eduqas yn eu cynnig, gan ddarparu manylion am sut y mae pob pwnc yn cael ei rannu’n rhannau cyfansoddol, e.e. opsiynau, cydrannau, papurau, uchafswm marciau, dyddiadau arholiadau, ffioedd ac ati.
Gallwch lwytho'r data sylfaenol i lawr yma>
Mae’n hanfodol bod canolfannau’n defnyddio fersiwn diweddaraf y data sylfaenol sydd ar gael ar gyfer pob lefel a chyfres arholiadau.
Rhaid rhoi Dangosydd Ymgeisydd Unigryw (UCI) i bob ymgeisydd. Mae'r rhif 13 digid hwn yn rhan o gofrestriad yr ymgeisydd. Rhaid i ganolfannau gadw UCI gwreiddiol ymgeisydd bob amser ac ni ddylent greu un newydd os yw'r ymgeisydd yn symud canolfan, ond mae'n arbennig o bwysig ar gyfer manylebau unedol ac os ydynt yn cyfnewid marciau Asesiadau Di-arholiad.
Mae gwybodaeth bellach am UCI i'w gweld ar wefan CGC.
Mae offeryn ar gyfer creu UCI ar gael yma.
Mae costau rhedeg a chyflwyno arholiadau'r haf yn rhan o'r hyn y mae ein ffioedd yn talu amdano, yn ogystal â'r gefnogaeth barhaus sydd ar gael gennym. Fel elusen, rydym wedi ymrwymo i ailfuddsoddi a pharhau i wella'r gefnogaeth, yr adnoddau a'r cymwysterau a ddarparwn i ysgolion, colegau a dysgwyr – gweler ein ffeithlun Ffioedd: I ble mae'r arian yn mynd? am fwy o wybodaeth.
Eleni, rydym hefyd wedi datblygu pecyn cefnogi newydd, helaeth i gefnogi ysgolion a cholegau fel y gallant asesu eu dysgwyr yn hyderus. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi cynhwysfawr, deunyddiau asesu, enghreifftiadau, ac arweiniad proffesiynol manwl.
> Ffioedd Mynediad: Haf 2022
> Ffioedd Mynediad: 2022/23
> Ffioedd Mynediad: 2023/24
> Ffioedd Mynediad: 2024/25