Ar ôl cyhoeddi canlyniadau pob cyfres arholiadau, mae CBAC yn cynnig dewis o wasanaethau ar ôl y canlyniadau, yn cynnwys:
Ail-wiriad clercyddol – ail-wiriad o’r holl weithdrefnau clercyddol sy’n arwain at gyhoeddi canlyniad
Adolygu'r marcio ar ôl y canlyniadau – adolygiad o'r marcio gwreiddiol i sicrhau bod y cynllun marcio y cytunwyd arno wedi’i ddefnyddio'n gywir
Mynediad at sgriptiau – fersiwn electronig o'r sgript
Adolygu'r cymedroli ar ôl y canlyniadau – adolygu'r cymedroli gwreiddiol er mwyn sicrhau bod y meini prawf asesu wedi'u cymhwyso'n deg, yn ddibynadwy ac yn gyson
Rhaid i’r ganolfan gofrestru gyflwyno ceisiadau am y gwasanaethau hyn. Rhaid i ymgeiswyr felly siarad â’r ysgol neu’r coleg os ydyn nhw am wneud cais am Wasanaeth ar ôl y Canlyniadau. Mae Gwybodaeth i Ymgeiswyr Preifat i’w gweld ar waelod y dudalen hon.
Mae cyngor ac arweiniad ar gael yn y dogfennau canlynol:
Mae CBAC yn dilyn yr un gweithdrefnau ym mis Ionawr â gweithdrefnau'r CGC ar gyfer cyfresi Mehefin a Thachwedd.
Os ydych chi am gael mynediad at sgriptiau, neu am gyflwyno cais am adolygiad o farcio neu gymedroli, gall canolfannau wneud hynny ar-lein drwy Porth CBAC.
Os oes gan ymgeiswyr preifat unrhyw bryderon am ganlyniadau eu harholiadau ac os ydynt yn dymuno gwneud cais am adolygiad, neu os ydynt yn dymuno cael mynediad at sgriptiau, dylent gysylltu â'r ganolfan sydd wedi'u cofrestru am gymorth. Gall ymgeiswyr preifat hefyd wneud cais yn uniongyrchol i CBAC drwy ofyn am ffurflen gais gan GAC@cbac.co.uk.
Mae CBAC yn dilyn prosesau'r CGC ar apeliadau fel y dogfennwyd yn nogfen y CGC Canllaw i brosesau apeliadau'r cyrff dyfarnu.
Mae’r CGC wedi cyhoeddi dogfen o Gwestiynau Cyffredin yn ymwneud ag Apeliadau ym mis Mehefin 2023.
Mae'r ddogfen Canllaw i Apeliadau yn amlinellu prosesau apelio CBAC ynghylch adolygiadau o ganlyniadau, camymddwyn, trefniadau mynediad ac addasiadau rhesymol, ystyriaeth arbennig a phenderfyniadau gweinyddol eraill ynghylch arholiadau ac asesiadau.
Caiff tystysgrifau eu rhyddhau i ganolfannau tua 12 wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau.
Gall canolfannau newid manylion personol ymgeiswyr a gofrestrir am gymwysterau CBAC hyd at y Dyddiadau Cau Argraffu Tystysgrifau, heb dalu costau ychwanegol.
- Cyfres Tachwedd – 31 Ionawr
- Cyfres Ionawr – 31 Mawrth
- Cyfres Mehefin – 9 Medi
Rhaid i ganolfannau roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i fanylion personol ymgeisydd drwy e-bostio ein tîm cofrestriadau gyda llythyr eglurhaol sy'n rhoi'r manylion cywir. Yna, bydd tystysgrif wreiddiol newydd yn cael ei dosbarthu i'ch canolfan (ni chaiff ei hanfon yn uniongyrchol at yr ymgeisydd). Bydd tâl am y gwasanaeth hwn. Gweler ein llyfryn ffioedd am wybodaeth pellach.
Gall canolfannau ddinistrio tystysgrifau'n gyfrinachol os nad ydynt yn cael eu hawlio gan ymgeiswyr 12 mis o'u derbyn.