Mae ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn ffordd ryngweithiol, ddeniadol a llawn gwybodaeth o roi hwb i'ch sgiliau addysgu. Maen nhw'n gyfle i chi wneud y canlynol:
- Gwylio, gwrando a dysgu: gwylio cyflwyniadau byw, gwrando ar arbenigwyr pwnc a dysgu ganddynt.
- Trafod, rhwydweithio a rhannu syniadau: cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, arolygon ac ymarferion marcio, wrth sgwrsio â chydweithwyr sy'n addysgu'n broffesiynol.
- Gofyn cwestiynau a chael mynediad at ddeunyddiau: cael atebion i'ch cwestiynau yn ystod y sesiwn a lawrlwytho deunyddiau cefnogi y gallwch eu rhannu â'ch cydweithwyr.
> Chwilio am gyfleoedd hyfforddi ar gyfer eich pwnc
> Darganfod sut i gadw lle
Faint o'r gloch mae cyrsiau ar-lein yn cael eu cynnal?
Mae amserau digwyddiadau unigol yn amrywio, ond y nod yw trefnu ein cyrsiau ar-lein yn agos at ddiwedd y diwrnod ysgol (rhwng 3.30pm a 6.00pm), i gyfateb yn well i'ch dyletswyddau addysgu.
Pa gyfarpar y mae ei angen arnaf i gymryd rhan?
Mae modd i chi gael mynediad at ein safle hyfforddiant ar-lein gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o ddyfeisiau sydd â chysylltiad rhyngrwyd a seinyddion/clustffonau, ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur personol bwrdd gwaith.
Sut ydw i'n cael mynediad at gwrs ar-lein?
Ar ôl i chi gadw lle ar un o'n Cyrsiau Ar-lein Byw, byddwch yn cael neges e-bost yn esbonio sut i ymuno â'r digwyddiad. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys y cyswllt y mae ei angen arnoch i gymryd rhan ar y diwrnod, yn ogystal â chysylltau i lawrlwytho unrhyw ddeunyddiau hyfforddi cyn y digwyddiad y mae eu hangen arnoch.
Byddwn hefyd yn darparu manylion ynghylch sut i gysylltu â ni os byddwch yn cael unrhyw broblemau technegol.
Mae ein cyrsiau wyneb yn wyneb â ffi yn gyfle i fanteisio ar wybodaeth fanwl ac arbenigedd ein cyflwynwyr, sy'n cynnwys athrawon, swyddogion pwnc, arholwyr a chymedrolwyr.
Rydym yn cynnig digwyddiadau diwrnod llawn a rhai hanner diwrnod yn ymdrin ag amrywiaeth eang o destunau, gan gynnwys:
- Ymgyfarwyddo â manyleb newydd, deall y cynnwys a'i strwythur asesu.
- Datblygu eich dealltwriaeth o asesiadau diweddar drwy adolygu deunyddiau enghreifftiol ac ymarfer marcio.
- Caffael strategaethau addysgu a dysgu ymarferol.
- Gwella eich dealltwriaeth o themâu, testunau a sgiliau pwnc.
- Cyfoethogi eich cynllunio a'ch cronfa o adnoddau ystafell ddosbarth.
- Rhannu arferion effeithiol a rhwydweithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr.
Bydd cynrychiolwyr yn cael pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau cwrs digidol hefyd.
> Chwilio am gyfleoedd hyfforddi ar gyfer eich pwnc
> Darganfod sut i gadw lle
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
Rydym yn ychwanegu cyfleoedd Dysgu Proffesiynol drwy gydol y flwyddyn academaidd.
> Tanysgrifiwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd newydd
Gwybodaeth am Brisiau
- Diwrnod llawn: £210
- Hanner diwrnod: £105
Rhaid talu drwy anfoneb yn unig – ni allwn dderbyn taliad ar-lein na thaliad â cherdyn credyd. Gweler gwybodaeth am gadw lle i gael y manylion llawn.