• - Dewch i gwrdd â'n Tîm Cefnogaeth Rhanbarthol

Dewch i gwrdd â'n Tîm Cefnogaeth Rhanbarthol

Sicrhewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch gan dîm y gallwch ddibynnu arno!

 

Mae ein tîm o arbenigwyr yn darparu cefnogaeth ymgynghorol i ysgolion a darparwyr addysg eraill yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi canolfannau sy'n cyflwyno'r cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau a'r cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. I weld y Fanyleb a Dogfennau Allweddol ar gyfer y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd ewch i dudalen y cymhwyster.

 

Bydd y tîm yn cynnig arweiniad i ganolfannau wrth iddynt ddechrau paratoi i gyflwyno'r cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a fydd yn cynnwys ymweld â chanolfannau a darparu hyfforddiant ac asesu a sicrhau ansawdd.

 

Cysylltwch heddiw i ddarganfod sut gall ein tîm eich cefnogi chi a'ch myfyrwyr.

 

Cwrdd â'r Tîm

 

Mae ein tîm wrth law i gwrdd â chi wyneb yn wyneb neu ar-lein ac i ddarparu gwasanaeth y gellir ei deilwra i ateb eich anghenion penodol chi - cysylltwch â'ch aelod o'r Tîm Cefnogaeth  Rhanbarthol heddiw i gael gwybod mwy.

 

Siân Coathup | sian.coathup@cbac.co.uk

Ardaloedd sydd dan eich gofal Gogledd a canolbarth de Cymru - ysgolion cyfrwng Saesneg
Bywgraffiad

Roeddwn yn athrawes Gwyddoniaeth yn y Gogledd am 19 mlynedd, yn dal amryw o swyddi adrannol a bugeiliol yn ystod fy ngyrfa. Drwy fy rôl fugeiliol cefais y cyfle i ganolbwyntio ar lesiant myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni orau y gallent. Rwy'n deall pa mor bwysig yw bod athrawon yn datblygu sgiliau dysgwyr er mwyn eu paratoi orau ar gyfer bywyd ar ôl ysgol/coleg.

 

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd yn gwneud hynny - paratoi dysgwyr Cymru mewn ffordd sy'n unigryw i'n system addysg.

 

Emma Vincent | emma.vincent@cbac.co.uk

Ardaloedd sydd dan eich gofal Colegau Addysg Bellach ledled Cymru
Bywgraffiad

Am dros 17 mlynedd roeddwn yn gweithio mewn coleg Addysg Bellach fel darlithydd, gan ddefnyddio fy mhrofiad o fewn y sector twristiaeth a busnes i gyflawni a rheoli amrywiol elfennau o’r cwricwlwm galwedigaethol.

 

Ers ymuno â CBAC yn 2011, rwyf wedi mwynhau gallu cefnogi colegau addysg bellach ledled Cymru, gan gynnig cyngor ac arweiniad i sicrhau bod profiad eu dysgwyr o ddatblygu sgiliau yn eithriadol.

 

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn gymhwyster cyffrous sy'n targedu datblygiad sgiliau y mae dysgwyr eu hangen ar gyfer eu dyfodol, gan eu cefnogi i fod yn ddinasyddion hyderus a gweithredol mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda cholegau wrth iddyn nhw baratoi i ddarparu ac asesu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd.

 

Rhys Huws | rhys.huws@cbac.co.uk

Ardaloedd sydd dan eich gofal Ysgolion de orllewin a chanolbarth Cymru - cyfrwng  Cymraeg a Saesneg
Bywgraffiad

Cyn ymuno â CBAC, roeddwn yn dysgu Daearyddiaeth mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro gan wneud  sawl rôl - Pennaeth Adran, Pennaeth Blwyddyn a Swyddog Arholiadau. Roeddwn yn gydlynydd Bagloriaeth Cymru hefyd yn yr ysgol wrth i ni beilota’r  cymhwyster yng Nghyfnod Allweddol 4 yn 2006.

 

Rwy'n gefnogwr mawr o’r cymhwyster  'Tystysgrif Her Sgiliau', a gallaf weld bod datblygu sgiliau yn werthfawr dros ben ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth yn y dyfodol.  Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a’r profiadau a'r sgiliau y bydd dysgwyr ledled Cymru yn eu hennill. 

 

Arwel Jones | arwel.jones@cbac.co.uk

Ardaloedd sydd dan eich gofal Ysgolion de ddwyrain Cymru ac Ysgolion cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog gogledd Cymru 
Bywgraffiad

Dechreuais fy ngyrfa fel athro Bioleg ac rwyf wedi bod yn ffodus i fod yn Bennaeth Adran a Phennaeth Chweched Dosbarth mewn amryw o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne ddwyrain Cymru. Roeddwn hefyd yn Bennaeth Ysgol Uwchradd mewn ysgol ryngwladol cyn ymuno â thîm CBAC.

 

Rwy'n mwynhau rhannu fy ngwybodaeth a phrofiad gydag athrawon o wahanol ganolfannau i'w cefnogi i gyflwyno'r Dystysgrif Her Sgiliau. Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith hwn tra'n helpu canolfannau i baratoi i gyflwyno ac asesu cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Rwyf wrth fy modd â’r cyfleoedd mae'r cymhwyster newydd hwn yn eu cynnig i'n pobl ifanc yng Nghymru i'w helpu i ddod yn ddinasyddion hyderus a gweithgar, mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn eu gweithle yn y dyfodol.