‘Mae Menter yr Ifanc yn cefnogi datblygiad pobl ifanc mentrus. Gallant nodi a chychwyn cyfleoedd gan addasu eu hymatebion ar yr un pryd i sefyllfaoedd sy’n newid. Rydym yn falch iawn o ddarparu dwy her Bagloriaeth Cymru, gan gefnogi pobl ifanc Cymru wrth iddyn nhw gymhwyso’u sgiliau mentrus at faterion cymdeithasol lleol.’
Russell Winnard, Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwasanaethau, Menter yr Ifanc
"Rydym yn ystyried bod Bagloriaeth Cymru yn gyfle gwych i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt symud o'r amgylchedd addysgol i'r byd gwaith. Mae'n gyfrwng delfrydol ar gyfer ein polisi allgymorth i godi ymwybyddiaeth o'r sefydliad a phwysigrwydd a pherthnasedd data ystadegol ym mywydau myfyrwyr o ddydd i ddydd ac o ran yr hyn maen nhw'n gobeithio ei wneud yn y dyfodol. Mae Bagloriaeth Cymru yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa iau a sicrhau ar yr un pryd eu bod nhw a'u haddysgwyr yn elwa o'r gefnogaeth amrywiol gallwn ei chynnig o ran ehangu eu haddysgu a gwella'r ffordd o gyflwyno Bagloriaeth Cymru."
Kate Roberts – Swyddfa Ystadegau Gwladol
“Mae Tystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn gymhwyster anghyffredin gan fod y myfyrwyr eu hunain yn bennaf yn arwain ar ei gynnwys. Rydym yn rhoi gwerth mawr ar yr hunangymhelliant, y chwilfrydedd a’r annibyniaeth meddwl sy’n datblygu o ddysgu fel hyn. Y nodweddion hyn, ynghyd â thair Safon Uwch ragorol, mae prifysgolion cystadleuol fel Rhydychen yn chwilio amdanyn nhw.”
Dr Matthew Willaims, Access and Career Development Fellow
- Jesus College, Oxford
Bydd pob Prifysgol yng Nghymru yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn eu cynigion.
Mae'r rhan fwyaf o'r prifysgolion eraill a'r rhan fwyaf o'r cyrsiau mewn prifysgolion yn derbyn y Dystysgrif Her Sgiliau hefyd. Caiff ei derbyn hyd yn oed ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol megis Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth yn lle gradd Safon Uwch.
e.e. Meddygaeth – Caerdydd, Caerwysg, Caerlŷr, Manceinion, Plymouth, Southampton
Milfeddygaeth/Meddygaeth – Bryste, Lerpwl, Nottingham
Deintyddiaeth – Bryste, Caerdydd
Gall cynigion am gyrsiau eraill fod yn y ffurfiau canlynol:
- Ei derbyn mewn cynnig 3 gradd yn lle Safon Uwch neu gymhwyster galwedigaethol. e.e. Birmingham, Bryste, Caeredin, Caerwysg, Caerhirfryn, Leeds, Caerlŷr, Lerpwl, LSE, Loughborough, Manceinion, Newcastle, Nottingham, Sheffield, Southampton, UCL, Caerefrog
- Ei derbyn fel pedwaredd radd (B neu C) ynghyd â chynnig 3 gradd is. e.e. Caerfaddon, Warwig
- Ei derbyn mewn cynnig pwyntiau tariff. e.e. Brighton, Caer, Edge Hill, Harper Adams, Hull, John Moores Lerpwl, Met Manceinion, Oxford Brookes, Plymouth, UWE
O bosib, mi fydd Rhydychen a Chaergrawnt yn ymgymryd â dull gwahanol wrth asesu ar gyfer mynediad, gan eu bod yn asesu ymgeiswyr mewn dull cyfannol. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio profiadau perthnasol o'r Dystysgrif Her Sgiliau wrth ysgrifennu eu datganiad personol. Dylent gyfeirio atynt mewn cyfweliad, gan gymryd copi o’u Project Unigol i’r cyfweliad yn ogystal. Yn gyffredinol, nid yw’r THS yn cael ei gynnwys ganddynt yn y cynnig 3 gradd Lefel A, er y mae’n bosib y bydd yn cael ei defnyddio fel rhan o’r cynnig.