Yn Arbennig i Gymru. Yn barod i'r byd: Dathlu cerrig milltir
Gobeithio bod pawb wedi cael dechrau cadarnhaol i'r flwyddyn academaidd newydd. Mae ein taith tuag at ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru yn parhau, a hoffwn ailfynegi ein hymrwymiad i gynnig cefnogaeth i chi a'ch timau.
Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi bod ton gyntaf ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru wedi'u cymeradwyo, yn barod i ddechrau addysgu o fis Medi 2025. Bwriedir y cymwysterau hyn i ymdrin â thirwedd addysgol unigryw Cymru a pharatoi dysgwyr ar gyfer heriau a chyfleoedd yn y dyfodol. Mae'r manylebau wedi'u cymeradwyo ar gael yn awr i'w lawrlwytho gennych ar dudalennau'r pynciau. Rydym yn gwirio ein TGAU diwygiedig mewn Astudiaethau Crefyddol yn derfynol ar hyn o bryd, ond rydym yn hyderus y caiff ei gymeradwyo yn yr wythnosau i ddod. Gallwch edrych ar ein manyleb ddrafft ar-lein.
Rydym wedi datblygu pecyn cefnogi cynhwysfawr fel y gallwn gefnogi ein hathrawon a darlithwyr i fod yn hyderus wrth iddynt gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn. Mae hyn yn cynnwys Rhaglen Dysgu Proffesiynol bwrpasol wedi'i darparu'n hyblyg, gan gynnwys wyneb yn wyneb, fel eu bod yn addas ar gyfer amserlen brysur athrawon a darlithwyr.
I ategu hyn, mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu cyfres o adnoddau Gwneud-i-Gymru, a gyhoeddir ar ddechrau tymor y gaeaf. Bydd ein hadnoddau newydd yn cynnwys elfennau y bydd modd eu haddasu gan y canolfannau fel y byddant yn gweddu i gyd-destun dysgu unigryw y ganolfan ei hun ac anghenion amrywiol y dysgwyr.
Rydym wedi diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin penodol i'r maes Gwneud-i-Gymru yn ogystal. Maen nhw bellach yn cynnwys gwybodaeth am safonau a dyfarnu, cyflwyno asesiadau di-arholiad digidol, asesiadau ar-sgrin a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol.
Gwnaethom gynnal digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn ddiweddar i ddathlu cymeradwyo'r cymwysterau hyn. Tanlinellodd y digwyddiad hwn pa mor hanfodol ydych chi o ran eich mewnbwn, a'r dull cyd-awduro a ddefnyddiwyd gennym wrth lunio'r cymwysterau hyn. Cafwyd y cyfle i gwrdd â'n rhanddeiliaid ac i ddathlu cymeradwyo ein manylebau.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr ar roi cyflwyniad yn y gynhadledd Policy Insight Wales nesaf er mwyn egluro sut yr aethom ati i ddatblygu'r cymwysterau hyn. Byddaf i, ac aelodau o'n Tîm Datblygu Cymwysterau, yn cyflwyno gan arddangos sut mae ein proses datblygu cymwysterau'n sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn cyfateb i nodau a dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru.
Gwneud-i-Gymru Ton 2: Parhau â'n dull cyd-awduro
Mae'r gwaith o ddatblygu ail don ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru ar fin dechrau, a byddwn yn parhau â'n dull cyd-awduro ac yn mynd ati'n weithredol i gynnwys dewis eang o randdeiliaid yn ein trafodaeth. Mae eich mewnbwn ac adborth chi wedi bod yn allweddol yn llunio ein cymwysterau, ac rydym yn awyddus i weld parhad yr ysbryd hwn o gydweithio. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda chi i greu cymwysterau sy'n berthnasol, yn gynhwysol, ac yn grymuso dysgwyr ledled Cymru.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn gonglfaen i'n gwaith datblygu o hyd, a byddwn yn parhau â'n partneriaeth â Dysgu Proffesiynol am Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL). Drwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau bod cynhwysiant wedi'i feithrin ym mhob cymhwyster a dysgwyr wedi'u hysbrydoli. Byddan nhw'n cael deunydd sy'n taro deuddeg ac yn adlewyrchu'r amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd gennym.
Dathlu llwyddiant
Ar ddechrau'r mis hwn, daethom at ein gilydd yn y Theatr Nidum yng Ngholeg Castell-nedd i ddathlu Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Bwriad y digwyddiad hwn oedd dathlu ymdrech ac ymrwymiad athrawon, rhanddeiliaid, a dysgwyr ledled Cymru ers lansio'r cymhwyster ym mis Medi 2023. Roeddem wrth ein bodd yn gweld yr amrediad eang o waith a gynhyrchwyd gan ddysgwyr sy'n dilyn y cymhwyster hwn.
Cefais y pleser yn ddiweddar hefyd o weld cyflawniad rhagor o'n dysgwyr, pan ymwelais â'r Arddangosfa Arloesedd. Roedd y creadigrwydd yng ngwaith dysgwyr heb ei ail. Bydd yr holl ddyfeisgarwch a ffresni eu ffyrdd o feddwl a welwyd yn eu projectau yn gwneud tasg y beirniaid yn anodd iawn pan fyddan nhw'n mynd ati i ddewis yr enillydd. Edrychaf ymlaen at y Seremoni Wobrwyo Arloesedd sydd i ddod ym mis Rhagfyr.
Cwrdd â'r hysgolion a cholegau
Mae croeso bob amser i aelodau ein cymuned addysg gynnal deialog gyda ni. Yn rhan o'r ymrwymiad hwn, bues i'n ymweld yn ddiweddar ag Ysgol Penglais yn Aberystwyth ac rwyf am ymweld ag Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseph, Wrecsam yn fuan. Os hoffech chi drefnu ymweliad, yna gallwch gysylltu â mi drwy anfon neges at lorna.turner@cbac.co.uk.
Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, ymroddiad, a phroffesiynoldeb parhaus. Gyda'n gilydd, mae dyfodol y byd addysg rydym yn ei lunio yng Nghymru yn un disglair.
Hoffwn ddymuno'r gorau i chi am y flwyddyn academaidd i ddod.
Yn gywir,
Ian