Ton 2 cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig – ymgynghoriadau ar gael nawr

Fel rhan o'n taith barhaus i gyd-awduro cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig ar gyfer dysgwyr ledled Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi bod ymgynghoriadau ar ein cynigion lefel uchel o ran strwythur a ffocws asesu ar gyfer Ton 2 y pynciau isod bellach yn fyw.

Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau wrth sôn am y datblygiad cyffrous hwn, “Rydym wedi cyrraedd carreg filltir allweddol wrth greu ein cymwysterau cynhwysol, deniadol a dwyieithog newydd. Rydym wedi ymgysylltu â thrawstoriad eang o randdeiliaid drwy ein Grwpiau Cynghori ar Ddatblygu, ond mae'r ymgynghoriadau hyn yn cynnig cyfle pwysig i fwy o aelodau'r gymuned addysg wneud sylw ar ein hamlinelliadau cychwynnol ar gyfer pynciau.

Mae'r amlinelliadau cymwysterau yn hynod bwysig, gan y bydd y rhain yn arwain ein gwaith datblygu ar gyfer y cymwysterau hyn yn y dyfodol. Rwy'n annog pawb i roi adborth ar ein cynigion, er mwyn sicrhau ein bod yn casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau, a fydd yn ein galluogi i greu cymwysterau sy'n addas ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.”

Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol i bynciau yn ail don ein datblygiad a fydd ar gael i'w addysgu o fis Medi 2026.

Ar gyfer pob pwnc, rydym wedi datblygu amlinelliad o’r cymhwyster sy’n adeiladu ar y Meini Prawf Cymeradwyo a luniwyd gan Cymwysterau Cymru. Yn seiliedig ar yr adborth a gesglir, bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn gweithio gyda'n Swyddogion Pwnc i adolygu a chyhoeddi'r amlinelliadau terfynol ym mis Ionawr 2025.

Rydym yn chwilio am adborth o bob rhan o'r gymuned addysg, gan gynnwys cydweithwyr addysgu, penaethiaid canolfannau, rhieni/gwarcheidwaid a dysgwyr.

Cymerwch ran – cwblhewch ein hymgynghoriadau heddiw

Mae ymgynghoriadau ar gyfer amlinelliadau cymwysterau ar gael i’r pynciau canlynol nawr:

TGAU

Dawns

  • Addysg Gorfforol ac Iechyd
  • Astudiaethau Cymdeithasol
  • Cyfryngau Digidol a Ffilm
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Gwyddoniaeth Gyfannol (Gradd Unigol)
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Technoleg Ddigidol
  • Y Gwyddorau (Dwyradd)

Cymhwyster nad yw'n TGAU

  • Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6/12/2024. I gael mynediad i'n hymgynghoriadau, ewch i'r dudalen we ganlynol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk.