Sut i helpu ffrind sy’n cael trafferth â'i iechyd meddwl
Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n cael trafferth â'i iechyd meddwl, dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud i'w cefnogi:
Mynegi pryder
Mae rhoi gwybod i rywun eich bod yn poeni yn ffordd dda o ddechrau sgwrs – mae'n dangos eich bod yn poeni am yr unigolyn, bod gennych chi amser iddo, ac y gallai fod yn agored ac yn onest gyda chi. Pwysleisiwch eich bod ar gael pryd bynnag y bydd angen sgwrs. Ond cofiwch fod yn sensitif wrth fynd ati, a pheidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yn barod i siarad. Gallai gymryd amser hir i rai pobl gyrraedd pwynt lle gallan nhw siarad yn agored am eu teimladau.
Gwrando
Gwrandewch yn astud ar yr hyn mae'r person yn ei ddweud. Gofynnwch gwestiynau agored a byddwch yn amyneddgar, gan roi digon o amser am ateb (mor fanwl ag y mae'n gyfforddus i'w roi). Peidiwch â gwthio am wybodaeth nad yw'n fodlon ei rhannu. Ym mhob tebyg, ni fyddwch chi'n gwybod y stori lawn, ond gall bod yno fod yn help mawr. Yn aml, nid yw pobl am gael cyngor nac atebion, ond am i rywun wrando ac i glywed eu llais. Rhowch dawelwch meddwl iddynt ei bod yn iawn teimlo fel hyn, mae'n normal – mae'n iawn i beidio â bod yn iawn!
Bod yno
Os yw'n ansicr ynghylch cael cymorth proffesiynol ai peidio, archwiliwch ffynonellau cymorth posibl a sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Anogwch yr unigolyn i ymweld â'i feddyg teulu, ond peidiwch â gorfodi unrhyw beth. Ceisiwch ganfod yr hyn sy'n gweithio i'r unigolyn. Ceisiwch ddangos eich cefnogaeth drwy gynnig mynychu unrhyw apwyntiadau (aros tu allan i'r feddygfa). Neu hyd yn oed drwy fynd am dro neu wylio ffilm gyda'ch gilydd.
Nid oes un ateb cyffredinol sy'n addas i bawb – mae angen dull gwahanol gyda phawb. Byddwch yn sensitif ac yn gefnogol bob amser, a dangoswch eich bod yn poeni. Wrth i'r cyfnod clo lacio a gallwn gwrdd â'n gilydd yn fwy rhydd, cadwch lygad allan am ffrindiau sy'n absennol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cyswllt ac yn rhoi cymorth emosiynol diamod i'ch ffrind(iau).
P'un a ydych chi'n bryderus amdanoch chi eich hun neu anwylyd, dyma rai elusennau, sefydliadau a grwpiau cefnogaeth iechyd meddwl a all gynnig cyngor arbenigol: