Rhowch fywyd newydd i’ch hen offer ysgol!
Wrth i chi symud o'r ysgol uwchradd i'r coleg neu brifysgol, mae'n amser perffaith i chi feddwl am ailddefnyddio ac ailgylchu eich hen wisgoedd a'ch llyfrau ysgol. Yn hytrach na gadael i'r adnoddau gwerthfawr hyn gasglu llwch, mae sawl ffordd greadigol ac effeithiol o'u hadnewyddu.
Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio opsiynau gwahanol i sicrhau bod eich hen wisgoedd a'ch llyfrau yn parhau i wneud gwahaniaeth, gan helpu eraill wrth gefnogi planed fwy gwyrdd.
O roi gwerslyfrau i elusennau lleol ac ailbwrpasu gwisgoedd ysgol ar gyfer rhaglenni cymunedol, i ailgylchu defnyddiau er lles amgylcheddol, mae pob gweithred yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Felly os ydych chi'n defnyddio eich seibiant dros yr haf i fynd drwy eich offer o'r flwyddyn ysgol ddiwethaf ac yn ansicr beth i'w wneud gyda nhw nawr, dyma rywfaint o awgrymiadau.
Ystyriwch sut gallwch chi eu defnyddio nhw eto.
Ailddefnyddio i ailastudio:
Os ydych chi'n mynd i'r coleg neu brifysgol fis Medi ac mae gennych chi lyfrau nodiadau, offer ysgrifennu ac eitemau cyffredinol heb eu defnyddio – grêt!
Mae defnyddio eich offer ysgrifennu ysgol wrth fynd i'r brifysgol yn ffordd dda o arbed arian heb orfod cyfaddawdu o ran yr hanfodion wrth adolygu. Drwy ailbwrpasu llyfrau nodiadau, beiros, ffolderi, ac offer eraill o'r ysgol, gallwch chi osgoi'r costau o brynu eitemau newydd.
Mae hyn nid yn unig yn ymestyn eich cyllideb ond hefyd yn hybu cynaliadwyedd drwy leihau gwastraff. Hefyd, gall meddu ar offer cyfarwydd eich helpu i ganolbwyntio a bod yn drefnus, gan ganiatáu i chi fwrw ati’n syth yn eich amgylchedd academaidd newydd heb straen costau ychwanegol.
A yw eich eitemau'n parhau i fod mewn cyflwr da ac yn barod i'w trosglwyddo i rywun arall?
Trosglwyddwch eich gwisgoedd a'ch llyfrau ysgol a grymuswch y dyfodol! Un eitem ar y tro!
Os oes gennych chi hen wisgoedd, gerslyfrau neu offer ysgrifennu sydd heb eu defnyddio o gwmpas y lle, beth am roi antur newydd iddyn nhw? Eu hatgyfodi!
-
Rhowch unrhyw eitemau diangen i'ch brawd, chwaer, neu gefndryd iau, neu i ffrindiau.
-
Cyfrannwch eitemau fel eich gwisg ysgol a'ch llyfrau yn ôl i'r ysgol.
-
Neu holwch o gwmpas yn eich ardal leol, bydd rhywun yn hapus i'w cymryd. Mae Facebook Marketplace yn lle gwych i ddechrau!
Mae rhoi gwisgoedd ysgol i'ch brawd neu chwaer iau yn ffordd wych o arbed arian ac i leddfu straen y teulu. Mae'n drefniant ymarferol sy'n cadw'r gyllideb yn iach ac yn sicrhau bod pob plentyn wedi'i baratoi'n dda ar gyfer yr ysgol, mewn gweithred o haelioni.
O ran offer hanfodol fel offer ysgrifennu a gwerslyfrau, mae llawer o ddysgwyr yn wynebu anawsterau ariannol, felly drwy roi eich eitemau sydd heb eu defnyddio neu heb eu defnyddio llawer i rywun, rydych chi'n rhoi hwb gwerthfawr! Gall eich haelioni wneud gwahaniaeth mawr – drwy sicrhau bod pob dysgwr â'r offer y mae eu hangen arnynt i ffynnu, ni waeth beth fo'u sefyllfa ariannol.
Gwerthwch eich llyfrau:
Troi tudalennau'n arian poced!
Wrth fynd ymlaen i addysg bellach, mae rhywfaint o arian poced ychwanegol bob amser yn ddefnyddiol – gall fod at docyn bws, arian amser cinio, llyfrau newydd, neu hyd yn oed ffioedd argraffu – felly byddwch yn ddoeth a rhowch gartref newydd i'ch hen lyfrau.
Drwy werthu eich hen lyfrau, nid yn unig ydych chi'n ennill rhywfaint o arian ychwanegol ond rydych chi hefyd yn cefnogi eich cyd-fyfyrwyr sy'n gobeithio ymestyn eu cyllideb eu hunain.
Cyhyd â bod eich llyfrau mewn cyflwr da, gallwch chi werthu eich hen werslyfrau mewn sawl lle, ond dyma wefannau poblogaidd i'w hystyried: Amazon, Facebook Marketplace, WeBuyBooks neu eBay.
Gwiriwch pa wefan sydd orau i chi gyda rhiant neu warcheidwad.
Rhowch eich llyfrau at achos da!
Trosglwyddo gwybodaeth ymlaen: Rhowch eich hen lyfrau ysgol i rywun i annog y bennod nesaf.
Gall llyfrau ysgol nad ydynt mewn cyflwr digon da i'w gwerthu fod yn werthfawr i'r gymuned o hyd. Hyd yn oed gyda rhywfaint o dudalennau wedi'u cnoi gan y ci, neu gyda rhannau wedi'u huwcholeuo, gallai'r llyfrau hyn fod yn ffynnon o wybodaeth i bobl eraill.
Mae canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd lleol, a rhaglenni tiwtora yn aml yn croesawu'r rhoddion hyn, gan eu bod yn darparu adnoddau i ddysgwyr gydol oes nad ydynt â'r modd i gael gafael arnynt fel arall.
Drwy roi ail fywyd i'r llyfrau hyn, rydych chi'n helpu i rannu gwybodaeth ac i ysbrydoli dysg lle mae ei hangen fwyaf.
Gall rhywun arall bob amser elwa o'r llyfr a ddefnyddiwyd gennych rywdro. Ni waeth beth fo'u cyflwr, ystyriwch roi eich llyfrau i rywun. Dyma rai lleoedd gwych y gallwch chi wneud hynny:
-
Eich llyfrgell leol: Cliciwch yma i ddod o hyd i’r llyfrgell agosaf atoch chi!
-
Better World Books: Siop ar-lein sy'n gwerthu llyfrau newydd a rhai sydd wedi'u defnyddio, i ariannu rhaglenni llythrennedd ac i gefnogi ymdrechion cynaliadwyedd byd-eang.
-
Elusen leol: Yn y DU, mae sawl elusen yn derbyn llyfrau rhodd, gan gynnwys:
Oxfam – maen nhw'n derbyn llyfrau i'w siopau elusen, gan helpu i godi arian at amrywiol ymdrechion dyngarol.
Books2Africa – Maen nhw'n casglu ac ailddosbarthu llyfrau i ddysgwyr a llyfrgelloedd ar draws Affrica.
British Heart Foundation – Maen nhw'n croesawu llyfrau rhodd i gefnogi eu gwaith ymchwil cardiofasgwlar a gofalu am gleifion.
Byddin yr Lachawdwriaeth: sefydliad elusennol sy'n derbyn llyfrau rhodd i gefnogi eu rhaglenni cymdeithasol amrywiol ac i gynorthwyo'r rheini sydd mewn angen. Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch siop Byddin yr Iachawdwriaeth agosaf!
A oes ôl traul ar eich eitemau sy'n golygu nad ydynt yn addas i'w trosglwyddo i bobl eraill?
Ailgylchwch lyfrau a gwisgoedd: Grymuso dysg, gwarchod y blaned, ac adeiladu dyfodol gwell.
Gellir ailgylchu llyfrau nad oes modd eu defnyddio mwyach er mawr budd i'r amgylchedd. Pan fyddwch chi'n ailgylchu hen lyfrau neu lyfrau sydd wedi'u difrodi, rydych chi'n lleihau gwastraff ac yn cadw adnoddau drwy sicrhau bod y papur a'r defnyddiau'n cael eu hailbwrpasu yn hytrach na mynd i safle tirlenwi.
Yn ôl y data o Raglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), mae tua 12 miliwn o lyfrau'n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn yn y DU.
Mae ailgylchu'n helpu i leihau'r galw am ddeunyddiau crai, gan leihau allyriadau carbon, a chefnogi'r economi. Drwy ailgylchu llyfrau, rydych chi'n cyfrannu at blaned fwy cynaliadwy ac yn hyrwyddo arferion eco-gyfeillgar, gan hefyd roi cyfle i weddnewid hen straeon a gwybodaeth yn gynhyrchion newydd.
Yn y cyfamser, gall ailgylchu hen wisgoedd ysgol gael effaith arwyddocaol ar gymunedau ar draws y byd. Drwy roi'r gwisgoedd hyn i bobl eraill neu eu hailgylchu, nid yn unig ydych chi'n ymestyn oes y darnau hyn o ddillad, rydych chi hefyd yn darparu adnoddau pwysig iawn i'r rhai sydd eu hangen.
Mae llawer o sefydliadau ac elusennau'n ailbwrpasu neu'n ailddosbarthu gwisgoedd i ddysgwyr mewn ardaloedd difreintiedig, lle gallan nhw helpu plant i fynd i'r ysgol gyda balchder a hyder gan hefyd leihau gwastraff tecstilau a'r ôl troed amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chreu dillad newydd.
Ystyriwch beth yw eich eitemau a beth yw'r ffordd orau o'u hailgylchu. Os nad ydych chi'n sicr, gwiriwch wefan eich cyngor lleol i weld eu canllawiau o ran ailgylchu yn eich ardal.
Y Bennod Olaf
Dewiswch e-Lyfrau i achub y coed, lleihau gwastraff, ac i fod yn wyrdd!
Wrth i chi fynd i'r brifysgol, gall dewis e-lyfrau dros fersiynau papur traddodiadol symleiddio eich bywyd academaidd a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae e-Lyfrau yn dileu'r angen am storfa ffisegol, gan leihau blerwch a gwastraff posibl sy'n gysylltiedig â gwerthu neu ailgylchu llyfrau papur yn ddiweddarach. Drwy ddewis fformatau digidol, nid yn unig ydych chi'n osgoi'r drafferth o ymdrin â hen werslyfrau ond hefyd rydych chi'n lleihau eich ôl troed amgylcheddol drwy achub y coed a lleihau gwastraff papur. Mwynhewch gyfleustra a manteision eco-gyfeillgar e-lyfrau i symleiddio eich astudiaethau wrth gefnogi planed fwy gwyrdd.
Wrth i chi gychwyn ar eich taith o'r ysgol uwchradd i'r brifysgol, gall treulio amser yn ailbwrpasu ac ailgylchu eich hen offer ysgol wneud gwahaniaeth sylweddol. O roi gwerslyfrau a gwisgoedd i elusennau ac ysgolion lleol, i ailgylchu defnyddiau sydd wedi treulio er budd amgylcheddol, mae pob gweithred yn cefnogi dyfodol mwy cynaliadwy. Drwy ddewis trosglwyddo eich eitemau, eu gwerthu, neu eu hailgylchu'n gyfrifol, nid yn unig ydych chi'n helpu eraill ond rydych chi hefyd yn lleihau eich effaith amgylcheddol eich hun.
Cofiwch, mae pob ymdrech bach yn cyfrannu at newid mwy cadarnhaol – p'un a yw'n ymestyn oes eich eitemau, arbed arian, neu warchod y blaned.
Gwnewch y mwyaf o'r cyfleoedd hyn i gael effaith hirdymor a dechreuwch ar y bennod hon gyda phwrpas a chynaliadwyedd mewn golwg!