Llesiant: Archwilio a chael gwared ar straen
Yn teimlo dan straen dros eich astudiaethau, arholiadau neu am fywyd yn gyffredinol? Cawsom sgwrs â Dr Rachel Dodge, Rheolwr Datblygu Cymwysterau (sydd a PhD mewn Seicoleg – yn canolbwyntio ar les myfyrwyr), a ddywedodd wrthym am yr hyn sy'n digwydd i'n cyrff a'n meddyliau pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, yn ogystal â ffyrdd o frwydro yn erbyn yr effeithiau hyn.
Beth yw Straen?
Mae'r GIG yn diffinio straen fel teimlad o fod dan ormod o bwysau meddyliol neu emosiynol. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu ymdopi â phwysau, yna mae'n troi'n straen, sy'n gallu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.
Sut mae straen arholiad yn effeithio ar bobl?
Er ein bod yn trafod y ffyrdd y gallwn frwydro yn erbyn effeithiau negyddol straen yn yr erthygl hon, nid yw'r teimlad o bwysau aruthrol y mae rhai pobl yn ei deimlo yn ystod arholiadau o reidrwydd yr un fath i bawb. I rai, gall straen fod yn ysgogiad defnyddiol, gan roi'r hwb sydd ei angen arnynt i fwrw ymlaen a'u hadolygu. I eraill, gall straen gael effaith fach neu ddim effaith o gwbl ar eu meddyliau neu eu cyrff ac nid yw'n effeithio arnynt mewn ffordd gadarnhaol na negyddol.
Arwyddion o straen
Gall straen amlygu ei hun mewn sawl ffordd; rydym yn tueddu i ganolbwyntio llawer ar effeithiau emosiynol straen fel y teimlad o banig neu ddim yn teimlo mewn rheolaeth, ond mae effeithiau straen hefyd i'w gweld yn ein cyflyrau gwybyddol a chorfforol. Efallai fod rhai pobl yn gyfarwydd iawn â'r teimlad o gerdded i mewn i ystafell a theimlo'r coesau'n gwanhau neu gyfradd y galon yn cynyddu, yn ogystal â'r teimlad o frwydro i ganolbwyntio mewn sefyllfa anodd. Ond y peth da yw, mae ffyrdd o frwydro yn erbyn y teimladau hyn.
Sut i wrthsefyll yn erbyn straen arholiadau
- Ymarfer technegau anadlu. Efallai ei fod yn swnio'n syml ond mae gallu rheoli eich anadlu pan fyddwch yn dechrau teimlo dan straen yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymdawelu. Bydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi ymlacio a thawelu eich meddwl er mwyn gallu canolbwyntio eto ar y dasg dan sylw.
- Rhowch gynnig ar rai dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar. P'un a ydych yn llwytho ap i lawr sy'n addysgu'r hanfodion i chi, yn edrych ar ein Canllaw Ymwybyddiaeth Ofalgar, neu'n mynychu dosbarth corfforol, profwyd bod ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu unigolion i ymdopi yn well ag effeithiau straen. Bydd ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar/meddylgarwch yn eich helpu i newid y ffordd rydych yn canfod yr effeithiau a bydd yn caniatau i chi ddefnyddio unrhyw bwysau er eich lles chi.
- Crëwch, adroddwch, cofiwch ac yn bwysicaf oll, credwch mewn mantras personol positif. Er ei fod yn haws dweud na gwneud, bydd newid y ffordd rydych yn meddwl yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig. Pan rydym yn teimlo dan straen, rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar y meddyliau negyddol a chanlyniadau posibl sefyllfaoedd, ond os gallwch ddefnyddio eich egni i gredu'r mantras positif rydych wedi'u creu, yna bydd hyn yn help mawr i'ch helpu i aros yn ddigynnwrf yn y cyfnodau hynny y byddwch chi dan bwysau.
- Paratowch a chynlluniwch. Os ydych chi dan straen oherwydd eich astudiaethau neu arholiadau, mae paratoi a chynllunio yn allweddol. Rydym wedi creu Pecyn Cymorth Adolygu cynhwysfawr i'ch helpu i gynllunio eich sesiynau astudio neu adolygu gan ddefnyddio cardiau fflach, amserlenni a rhestri gwirio.
Un o'r pethau pwysicaf i'w gofio am straen yw, os yw'r arholiad yn dechrau mynd yn drech na chi, mae'n hynod o debygol nad chi yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn. Siaradwch â'ch ffrindiau am sut rydych chi'n teimlo, ac efallai y byddwch yn gallu helpu'ch gilydd ar bethau sy'n anodd i chi. Os bydd angen rhagor o arweiniad arnoch, sicrhewch eich bod yn siarad â'ch rhieni ac athrawon; yn y pen draw maen nhw am i chi wneud eich gorau ac maen nhw wrth law i'ch cefnogi ag unrhyw beth y gall fod yn anodd i chi.