CBAC yn lansio Adolygiad Blynyddol

Lansio Adolygiad Blynyddol 2023/24

Rydym yn falch o gyhoeddi Adolygiad Blynyddol 2023/24 – gan roi cipolwg ar ein llwyddiannau a'n cyflawniadau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.  

Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at ein cynnydd wrth i ni barhau i gydweithio'n agos â'r gymuned addysg i alluogi dysgwyr Cymru i gyrraedd eu llawn botensial. 

Yn ei sylwadau am yr Adolygiad Blynyddol, dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Morgan: “Eleni, mae'r Adolygiad Blynyddol yn crynhoi cyfnod o drawsnewid yn addysg Cymru. Mae'n arddangos rôl ganolog CBAC yn y gwaith o  ddylunio cymwysterau sy'n wir adlewyrchu tirwedd addysgol unigryw Cymru.  Mae ein cyhoeddiad yn dyst i bwysigrwydd cydweithredu, arloesi, a'n hymrwymiad cadarn i ddysgwyr.  Nid yn unig mae'r adolygiad yn tynnu sylw at sut rydym yn addasu i newid, ond yn gweithredu arno, gan sicrhau bod ein cymwysterau'n parhau'n berthnasol, cynhwysol a blaengar. Mae'r adolygiad hwn yn dangos ein hymroddiad i rymuso dysgwyr a chefnogi addysgwyr mewn byd sy'n parhau i esblygu"  

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:  

  • Cymwysterau Gwneud-i-Gymru: Datblygwyd y don gyntaf o fanylebau wedi'u cymeradwyo, gyda mewnbwn hanfodol gan randdeiliad ledled Cymru, a gyhoeddwyd i'w haddysgu o fis Medi 2025. 

  • Rhaglen Dyfodol CBAC: Lansio cymwysterau Galwedigaethol arloesol ychwanegol gan gynnwys cyfresi Lled-ddargludyddion a Chynaliadwyedd cyntaf y DU, gan agor llwybrau newydd i ddysgwyr.  

  • Dathlu cynhwysedd: Comisiynwyd cyfieithiadau cyfrwng Cymraeg newydd o ddramâu clasurol a modern, gan gefnogi'r cwricwlwm a chyfoethogi theatr yn yr iaith Gymraeg.  

Gallwch lawrlwytho’r  Adolygiad Blynyddol yma. Byddem yn ddiolchgar am eich adborth, naill ai drwy e-bost neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol – gan ddefnyddio #WJECAnnualReview. 

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletinau e-bost  i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gwaith a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. 

Ton 2 cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig...
Blaenorol
Ian Morgan, Prif Weithredwr i gyflwyno prif araith ar ddiwygio cymwysterau yng Nghymru
Nesaf