Ian Morgan, Prif Weithredwr i gyflwyno prif araith ar ddiwygio cymwysterau yng Nghymru

Yn ymuno ag Ian a Richard Harry, Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesiadau, fydd dau o'n Swyddogion Datblygu Cymwysterau, Dr Rachel Dodge a Nina Rees, i drafod y blaenoriaethau ar gyfer datblygu cymwysterau yng Nghymru.  

Mewn sylw ar gymryd rhan yn y gynhadledd flaenllaw hon, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Fel y corff dyfarnu blaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn datblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, gan gymryd gofal wrth i’r gwaith dylunio ddigwydd i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru. 

Rydym wedi mabwysiadu dull cyd-awduro wrth ddatblygu ac rydym wedi sicrhau bod lleisiau o bob rhan o Gymru yn cael eu clywed a'u hystyried.  

Yn ddiweddar cyhoeddwyd y don gyntaf o'r manylebau cymeradwy Gwneud-i-Gymru ac rydym yn hyderus y bydd ein cymwysterau newydd yn rhoi cyfleoedd dysgu unigryw i ddysgwyr wella eu gwybodaeth a'u sgiliau i'w galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang. 

Yn ogystal, mae ein timau hefyd yn archwilio darpariaeth lawn 14-16 Cymwysterau Cymru, ac yn seiliedig ar ein profiad o ddarparu cymwysterau sy'n seiliedig ar sgiliau, fel y Tystysgrifau Her Sgiliau, mae ein timau'n hyderus y gallwn wella ein cynnig i ehangu profiadau dysgu dysgwyr. 

Edrychaf ymlaen at rannu mwy yng nghynhadledd ddigidol Policy Insight Wales a chymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon adeiladol pellach." 

Bydd Ian ac aelodau o CBAC yn arwain prif anerchiad dan y teitl 'Blaenoriaethau ar gyfer datblygu cymwysterau yng Nghymru.' Byddan nhw'n archwilio dull cyd-awduro CBAC wrth ddatblygu'r cymwysterau newydd hyn, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru. 

Cynnwys y Gynhadledd

Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 19 Tachwedd, a bydd yn canolbwyntio ar y diwygiadau diweddaraf i gymwysterau yng Nghymru.  

Bydd y digwyddiad yn cynnwys prif sesiynau gan Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru, a Dr Mary Richardson, Athro Asesiadau Addysgol, University College London. 

Bydd cynrychiolwyr yn trafod y camau nesaf wrth gyflwyno'r cymwysterau newydd, yn ystyried y defnydd o dechnoleg ddigidol a sut byddan nhw'n paratoi dysgwyr ar gyfer y dyfodol.  

I gadw eich lle, ewch i wefan Policy Insight Wales. 

CBAC yn lansio Adolygiad Blynyddol
Lansio Adolygiad Blynyddol 2023/24
Blaenorol
Cymwysterau TGAU newydd, cyfleoedd newydd: Yn barod i gyflwyno 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol’
Yn Arbennig i Gymru. Yn barod i'r byd: Dathlu cerrig milltir
Nesaf