Cymorth i fyfyrwyr ar ôl y Canlyniadau TGAU
Os ydych chi wedi casglu eich canlyniadau TGAU ac yn siomedig gyda'r canlyniad, darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am yr opsiynau a'r camau nesaf sydd ar gael i chi o hyn ymlaen.
Peidiwch â mynd i banig
Efallai ei fod yn teimlo fel y peth gwaethaf yn y byd ar hyn o bryd, ond bydd y teimlad hwnnw'n tawelu cyn bo hir. Eisteddwch yn dawel am ychydig, anadlwch yn ddwfn - mae angen meddwl clir arnoch chi; bydd yn llawer haws gwneud penderfyniadau os bydd eich meddwl yn dawel.
Ailsefyll
Ailsefyll yw'r dewis mwyaf amlwg i'r rhai na chawsant y graddau yr oeddent yn eu disgwyl ond nad ydynt am newid y cynlluniau sydd ganddynt ar y gweill yn ormodol. Nid yw hyn yn benderfyniad i'w wneud yn fyrbwyll fodd bynnag, ystyriwch y graddau yr ydych am eu gwella ac a oes gwir angen ailsefyll ar gyfer eich camau nesaf (h.y. meddyliwch a yw'r cam nesaf o'ch dewis yn gofyn i chi gael gradd well yn y pynciau rydych chi'n ystyried eu hailsefyll).
Ail-farcio
Os credwch ei bod yn angenrheidiol, efallai y byddwch am ystyried yr amrywiaeth o wasanaethau ar ôl y canlyniadau swyddogol sydd gennym. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal adolygiad o'r marcio neu ail-wiriad clerigol o'ch sgriptiau arholiad. Cofiwch fod yn rhaid i unrhyw geisiadau am wasanaethau ar ôl y canlyniadau gael eu cyflwyno drwy'r Swyddog Arholiadau yn eich ysgol.
Ailymgeisio
Os na fydd y chweched dosbarth neu'ch coleg o'ch dewis yn derbyn eich graddau ond nad ydych am ailsefyll y flwyddyn eto, yna gallech ystyried edrych ar sefydliadau chweched dosbarth neu golegau eraill yn eich ardal a allai dderbyn eich graddau. Efallai y gallech ddewis astudio yno wrth ailsefyll y cymwysterau TGAU y teimlwch y gellid eu gwella.
Os oes angen arweiniad pellach arnoch chi ar yr opsiynau a all fod ar gael i chi yn awr, yna siaradwch â'ch athrawon a'ch rhieni/gwarcheidwaid. Byddan nhw'n gallu cynnig cymorth a'ch cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth fanylach i chi!