Chwilio am gymhelliant i’ch cadw yn heini'r gaeaf yma?
Wrth i'r tywydd oeri ac wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach, mae'n anodd i gadw cymhelliant i gadw'n egnïol. I ddweud y gwir, byddai'n llawer gwell gennym ymlacio o flaen tân cysurus gyda llyfr da a siocled poeth.
Felly, rydym wedi gweithio gyda Sean Williams, Swyddog Pwnc Addysg Gorfforol, i lunio rhestr o bethau i'w gwneud a phethau i'w hosgoi ynghylch sut i sbarduno eich hun eto ac i drechu diflastod y gaeaf.
Gosodwch nodau
Mae nodau yn ffordd wych o gynnal cymhelliant - ond mae angen iddyn nhw bob amser fod o fewn cyrraedd! Ewch yn araf i ddechrau. Cofiwch fod unrhyw beth yn well na dim byd. Gall 30 munud yn unig gryfhau'r esgyrn, lleihau braster y corff, a rhoi hwb i bŵer a dygnwch y cyhyrau.
Peidiwch ag ofni eich sesiwn ymarfer
Bydd agwedd negyddol yn gwneud y sesiwn 10 gwaith yn waeth. Ceisiwch fod yn gadarnhaol ac atgoffwch eich hun o'r nod - byddwch chi'n diolch i'ch hun wedyn!
Lluniwch restr o ganeuon ysbrydoledig
Bydd cael eich hoff gerddoriaeth yn eich clustiau wrth ymarfer yn gwneud y cyfan yn llawer mwy o hwyl. Gallwch chi gadw at y rhythm a fyddwch chi ddim yn poeni cymaint am ba mor anodd yw’r ymarfer ei hun.
Peidiwch â phwyso 'snooze'
Pan fydd y larwm yn canu, codwch! Peidiwch â meddwl gormod am yr ymarfer corff, ewch ati i’w wneud!
Rhowch eich dillad ymarfer corff ar y rheiddiadur
Bydd cynhesu eich dillad yn barod i fynd yn eich helpu i ymdopi â boreau oer a chaled.
Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar bethau gwahanol
Gall gwneud yr un peth, dro ar ôl tro, fynd yn ddiflas yn gyflym. Mae rhoi cynnig ar bethau gwahanol yn ffordd o hybu cymhelliant a brwdfrydedd ond hefyd yn gweithio cyhyrau gwahanol, sy’n golygu bod eich sesiwn yn fwy effeithiol.
Gwisgwch yn briodol
Yn ôl y sôn, does dim y fath beth â thywydd gwael, dim ond dillad gwael Beth mae rhagolygon y tywydd yn ei ddweud? Ystyriwch haenau ysgafn! Mae'n dda dechrau'n gynnes ond gallu tynnu eitemau o ddillad os oes angen.