Canlyniadau TGAU: Cam nesaf eich taith
Mae'r asesiadau drosodd, rydych chi wedi casglu eich canlyniadau a ph'un a ydych chi wrth eich bodd neu'n teimlo ychydig yn siomedig, mae'n debygol bod un cwestiwn yn eich meddwl - "Beth nawr?". Yn yr erthygl hon, rydym yn archwilio'r opsiynau sy'n agored i chi nawr eich bod wedi cyflawni'r garreg filltir o gwblhau eich TGAU.
Safon Uwch
Un o'r llwybrau mwyaf poblogaidd ar 61 TGAU yw mynd i weithio tuag at gymwysterau Safon Uwch. Mae cymwysterau Safon Uwch yn rhai lefel 3 sy'n cymryd dwy flynedd i'w cwblhau, ac maen nhw ymysg y ffyrdd mwyaf traddodiadol o gyrraedd y brifysgol. Apel fawr Safon Uwch yw eu bod yn caniatau i chi ddewis astudio pynciau y mae gennych y mwyaf o ddiddordeb ynddyn nhw, ac wedi gwneud yn dda ynddyn nhw yn ystod eich TGAU. Hyd yn oed os oeddech chi wedi dewis sefyll eich cymwysterau Safon Uwch fel eich cam nesaf, nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud prentisiaeth yn ddiweddarach.
Cymwysterau Galwedigaethol
Fel arfer, mae sail fwy ymarferol i'r mathau hyn o gymwysterau. Mae cymwysterau Safon Uwch yn seiliedig ar yr ystafell ddosbarth yn bennaf, tra bod cymwysterau galwedigaethol fel arfer yn golygu cymhwyso rhywfaint o'r hyn roeddech chi wedi'i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth at sefyllfaoedd ymarferol, bywyd go iawn. Mae'r cymwysterau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau o lechyd a Gofal Cymdeithasol i Fusnes Cymhwysol i Wyddor Feddygol a llawer mwy. Yn union fel Safon Uwch, maen nhw'n cael eu cydnabod gan gyflogwyr fel cymwysterau dilys.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o gyfuno eich awch i gael eich talu am weithio a pharhau i astudio er mwyn ennill cymwysterau pellach. Gall prentisiaethau gynnwys amrywiaeth eang o ddiwydiannau a byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn gweithio (ac yn cael eich talu) yn yr amgylcheddau hyn. Bydd rhan fach o'ch amser yna'n cael ei neilltuo ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth, lie y byddwch yn gweithio tuag at ennill cymwysterau ychwanegol. Ar ôl gorffen eich prentisiaeth, bydd sawl dewis ar gael i chi o hyd, a gallwch fynd i weithio'n llawn amser neu fynd ymlaen i'r brifysgol.
A oes angen i chi ystyried ail-sefyll?
Efallai mai dyma'r peth olaf yr hoffech ei ystyried ar hyn o bryd, ond os na chawsoch chi radd C neu uwch yn Saesneg a Mathemateg, efallai y byddai'n syniad i chi ystyried ailsefyll y cymwysterau hyn. Ar gyfer llawer o'r opsiynau llwybrau gyrfa a nodir uchod (megis rhai cymwysterau a thystysgrifau galwedigaethol penodol), bydd gofyn i chi gael TGAU hyd at lefel benodol er mwyn ymuno a'r cyrsiau. Gellid dweud yr un peth am lawer o opsiynau cyflogaeth llawn amser y gallech foci yn eu hystyried mewn ychydig flynyddoedd. Efallai bydd eich athrawon yn gallu rhoi arweiniad pellach i chi ar y sefyllfa hon.
Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae'n bwysig eich bod yn meddwl yn ofalus ac yn cynllunio yr hyn yr ydych am ei wneud wrth i chi symud ymlaen i'r cyfnod nesaf yn eich bywyd. Er y gall ymddangos yn frawychus, mae llawer o gymorth ar gael i fyfyrwyr a bydd eich athrawon yn gallu rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau gorau i chi. Pob lwc ar gyfer y cyfnod cyffrous sydd o'ch blaenau!