Sylfaen Cymraeg i Oedolion
Dyma'r all isaf y gellir sefyll arholiad arni. Byddwch chi'n barod i sefyll yr arholiad hwn ar ô1 gorffen Cwrs Sylfaen (CBAC), neu ar ôl gorffen y Cwrs Wlpan.
Mae sawl rhan i'r arholiad, yn profi'r sgiliau iaith dych chi'n eu dysgu yn eich dosbarth Cymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfryn i'r ymgeiswyr (dwyieithog) a manylion yn y fanyleb i diwtoriaid (Cymraeg) ar y dudalen hon.
Enghraifft 1 - Mair a Jeanne (De) | Enghraifft 2 - Lowri a Andi (Gogledd) |
Mae enghreifftiau o'r prawf Siarad Sylfaen i'w cael yn y fideos yma, a sylwadau arnynt. Ceir un ymgeisydd o'r de ac un o ogledd Cymru.
Y ffordd orau i sicrhau eich bod yn barod i sefyll yr arholiad yw edrych ar y cyn-bapurau, ac ymarfer rhai ohonyn nhw gyda'ch tiwtor. Bydd eich tiwtor hefyd yn gallu esbonio i chi sut i gofrestru, os dych chi'n dysgu ar gwrs.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.