Canolradd Cymraeg i Oedolion
Dyma'r trydydd arholiad, ac mae'n cyfateb i lefel TGAU (ail iaith). Byddwch chi'n barod i sefyll yr arholiad hwn ar ôl gorffen Cwrs Canolradd (CBAC), neu'r Cwrs Pellach.
Mae sawl rhan i'r arholiad, yn profi'r sgiliau iaith dych chi'n eu dysgu yn eich dosbarth Cymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfryn i'r ymgeiswyr (dwyieithog) a manylion yn y fanyleb i diwtoriaid (Cymraeg) ar y dudalen hon.
Mae enghreifftiau o'r prawf Siarad Canolradd i'w cael yn y fideos yma, a sylwadau arnynt. Ceir un ymgeisydd o'r de ac un o ogledd Cymru.
Y ffordd orau i sicrhau eich bod yn barod i sefyll yr arholiad yw edrych ar y cyn-bapurau, ac ymarfer rhai ohonyn nhw gyda'ch tiwtor. Bydd eich tiwtor hefyd yn gallu esbonio i chi sut i gofrestru, os dych chi'n dysgu ar gwrs.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.